Mater - cyfarfodydd

Aura Leisure and Libraries Review of Progress

Cyfarfod: 20/03/2018 - Cabinet (eitem 157)

Adolygiad o Gynnydd Gwasanaeth Hamdden a Llyfrgelloedd Aura

Pwrpas:        Adolygu cynnydd y flwyddyn gyntaf o weithredu a chytuno ar y Cynllun Busnes ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

  • Restricted enclosure 2
  • Restricted enclosure 3
  • Restricted enclosure 4

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad Adolygiad o Gynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a ddarparodd adolygiad o gynnydd o ran gyntaf y flwyddyn weithredu, copi o’r Cynllun Busnes arfaethedig ar gyfer Ebrill 2018 - Mawrth 2019, a diweddariad o gyfarfod y Bwrdd Partneriaeth a gynhaliwyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Hamdden a Llyfrgelloedd Aura ar 22 Chwefror 2018.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge fod Hamdden a Llyfrgelloedd Aura yn mynychu cyfarfodydd Cabinet i’r dyfodol pan fydd yna eitem yn ymwneud â nhw ar yr agenda, a gefnogwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Cynllun Busnes Hamdden a Llyfrgelloedd Aura ar gyfer y flwyddyn 2018/19 a dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog, ar y cyd â’r Deilydd Portffolio ar gyfer Addysg, os na ellir cyflawni’r amcanestyniadau ariannol, gweithredu un neu bob un o’r tri phrosiect wrth gefn y manylir arnynt yn yr adroddiad;

 

(b)       Cymeradwyo rhyddhau cyllid refeniw i Hamdden a Llyfrgelloedd Aura am y flwyddyn 2018/19 gan wneud cyfanswm o £3.773m; a

 

(c)        Bod Aura yn mynychu ac yn cyflwyno i gyfarfodydd Cabinet y dyfodol pan fydd yr eitem ar yr agenda.