Mater - cyfarfodydd

Council Fund Budget 2017/18 and 2018/19 - Use of Reserves and Balances

Cyfarfod: 01/03/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 114)

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2017/18 a 2018/19 - Defnyddio Cronfa Wrth Gefn a Gweddill

Pwrpas: cynghori’r Cyngor ar (1) canlyniad arfaethedig cronfa wrth gefn a gweddill ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2017/18 a (2) y posibilrwydd o ryddhau cronfa wrth gefn a gweddill pellach i ategu’r gyllideb cyllid ysgolion cynlluniedig ar gyfer 2019/20.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad ar lafar gan y Prif Weithredwr i gynghori’r Cyngor ar  ganlyniad arfaethedig y gronfa wrth gefn a gweddill ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2017/18 a’r posibilrwydd o ryddhau cronfa wrth gefn a gweddill pellach i ategu’r gyllideb cyllid ysgolion cynlluniedig ar gyfer 2019/20.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at gyfarfod blaenorol y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2018, a phenderfyniad a wnaed yn dilyn ystyried Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19, i gyflwyno adroddiad i’r cyfarfod nesaf i ddarparu diweddariad ar unrhyw

gyllid untro ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’w ddefnyddio i ariannu gwariant yn

ystod y flwyddynac felly cynyddu’r lefelau’r arian wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn,

gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i gymorth ariannol ychwanegol ar gyfer ysgolion. 

Dywedodd bod yr Awdurdod yn hyderus y byddai Llywodraeth Cymru yn

cyhoeddi cyllid untro ychwanegol yn benodol ar gyfer ysgolion yn 2017/18 yn fuan.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod Llywodraeth Cymru, yn yr wythnos ddiwethaf, wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o £428K ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint; yn benodol ar gyfer y pwysau ar wasanaethau gofal cartref yn ystod y gaeaf, gofal preswyl ac addasiadau i’r cartref. Dywedodd nad oedd rhaid gwario’r arian ar ychwanegiadau ac y byddai’r arian yn cael ei ddyrannu i wariant a oedd eisoes wedi’i gynllunio. Felly byddai’r dyraniad yn lleihau’r gorwariant a ragamcanwyd gan y Cyngor o £428K ar gyfer 2017/18 a byddai’n rhyddhau cronfa wrth gefn o’r un swm i’w ail-ddosbarthu. 

 

Yn dilyn trafodaeth gydag Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd, Aelod Cabinet Addysg, a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, dywedodd y Prif Weithredwr y cynigiwyd bod y Cyngor yn ystyried cynyddu’r £428K sydd ar gael i £460K er mwyn cynyddu’r cyllid ychwanegol sydd ar gael i ysgolion yn 2018/19 i £1.6M.   Pwysleisiodd y byddai’r cyllid ychwanegol o 1.71% o Dreth y Cyngor yn cael ei gynnwys yn y cyllid sylfaenol ar gyfer ysgolion flwyddyn ar flwyddyn ond bod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn gyllid ‘untro’ ac ni fyddai’n rhan o’r cyllid sylfaenol bob blwyddyn. 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’r Awdurdod yn derbyn £1.427M o gyfalaf pellach gan Lywodraeth Cymru fel ei gyfran ar gyfer cynlluniau ffyrdd ac atgyweirio yng Nghymru yn ystod y flwyddyn. Eglurodd y Prif Weithredwr ei fod hefyd yn disgwyl y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad yn fuan o ran y cyllid untro ychwanegol ar gyfer y flwyddyn hon, a roddir i ysgolion drwy awdurdodau lleol i’w wario ar gyllideb y flwyddyn nesaf. Cynigiwyd, yn dilyn unrhyw gyhoeddiad o’r fath, rhoi unrhyw gyllid untro pellach i ysgolion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton gefnogi’r cynnig i gynyddu’r £428K sydd ar gael i £460K, a fyddai’n darparu cyfanswm o £1.6M o fuddsoddiad ychwanegol i ysgolion ar gyfer 2018/19. Croesawodd y datblygiad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru a mynegodd ei werthfawrogiad bod yr angen am gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol wedi’i gydnabod a’r argymhelliad bod £460K yn cael ei roi i ysgolion. Dywedodd y Cynghorydd Shotton y byddai’r Cyngor, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn parhau i lobïo Llywodraeth  ...  view the full Cofnodion text for item 114