Mater - cyfarfodydd

Aura Leisure and Libraries Progress Review

Cyfarfod: 19/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 51)

Adolygiad Cynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura

Pwrpas:  Adolygu cynnydd Aura ers iddo sefydlu yn 2017

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) adroddiad er mwyn galluogi’r Pwyllgor i adolygu cynnydd ‘Aura Leisure and Libraries Limited’ ers ei sefydlu yn 2017. Cyflwynodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a gwahoddwyd Paul Jones, Rheolwr Gwella Busnes a Pherfformiad, a Neil Williams, Ysgrifennydd y Cwmni, i adrodd ar gynnydd y trosglwyddiad ac ar Gynllun Busnes ‘Aura Leisure and Libraries’ ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19.

 

Gofynnodd yr aelodau nifer o gwestiynau am weithgareddau i bobl anabl a phrosiectau buddsoddiad cyfalaf y dyfodol. Cytunodd Paul Jones y byddai’n ystyried yr awgrymiadau i ddarparu sesiynau ychwanegol i bobl anabl.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Paul Jones a Neil Williams am eu cyflwyniad ac am ateb cwestiynau’r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnydd ‘Aura Leisure and Libraries Ltd’ ers ei sefydlu ym mis Mawrth 2017; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn diolch i ‘Aura Leisure and Libraries Ltd’ am yr esboniad o’u Cynllun Busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19.