Mater - cyfarfodydd

Council Tax Setting for 2018-19

Cyfarfod: 01/03/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 113)

113 Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2018-19 pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas: I’r Cyngor Sir gytuno ar ffioedd Treth Y Cyngor a phenderfyniadau statudol cysylltiol ar gyfer 2018-19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw'r adroddiad i gytuno ar ffioedd Treth y Cyngor a phenderfyniadau statudol cysylltiol ar gyfer 2018-19. Darparodd wybodaeth gefndirol a dywedodd fod Treth y Cyngor am gynyddu o 6.71% o braesept Sir y Fflint. Eglurodd fod Treth y Cyngor yn cynnwys tri thâl gwahanol sy’n penderfynu ar y lefel gyffredinol o Dreth y Cyngor a godir yn erbyn bob eiddo. Roedd y rhain yn cynnwys praesept y Cyngor Sir yn ogystal â phraeseptau Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a phraeseptau Cyngor Tref a Chymuned.

 

Eglurodd y Rheolwr Refeniw y byddai praesept Sir y Fflint ar gyfer 2018/19 yn cael ei osod ar ffi Band D o £1,177.60 a fyddai’n cynhyrchu incwm o £75,172M ar gyfer yr Awdurdod a fyddai o gymorth i ariannu costau rhedeg gwasanaethau lleol yn rhannol. Dywedodd y Rheolwr Refeniw, fel rhan o osod Treth y Cyngor ar gyfer 2018/19, y byddai’r Cyngor hefyd yn talu praesept o £16,477M i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru (sef ffi Band D o £258.12 a oedd yn gynnydd o 3.79%).   Dywedodd hefyd y byddai’r praesept cyfunol  ar gyfer y 34 Cyngor Tref a Chymuned yn £2,847M a fyddai, ar gyfartaledd, yn cyfateb i ffi Band D o oddeutu £44.60. Yn gryno, byddai’r Awdurdod yn codi ffioedd Treth y Cyngor o £94,496M ar gyfer 2018/19.

 

                        Dywedodd y Rheolwr Refeniw fod Treth y Cyngor fel arfer yn cael ei osod ar gyfradd Band D safonol a oedd yn arwain at lefelau Treth y Cyngor is ar gyfer yr eiddo ym Mandiau A i C a lefelau uwch ar gyfer yr eiddo ym Mandiau E i I. Ar gyfer 2018/19, nodwyd y lefelau Treth y Cyngor a argymhellir ar gyfer pob band eiddo ac ar gyfer ardaloedd Cyngor Tref a Chymuned yn Atodiad 1 yr adroddiad. 

 

Fe gyfeiriodd y Rheolwr Refeniw at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad.Gwnaeth sylw ar y polisïau presennol a’r penderfyniadau blaenorol a wnaed gan y Cyngor a chyfeiriodd at gynllun premiwm Treth y Cyngor a’r angen i gefnogi parhad arfer y polisi i beidio â darparu gostyngiad o ran lefel ffioedd Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag tymor hir. Hefyd, lle nad oedd eithriadau, i godi'r gyfradd Premiwm Treth y Cyngor o 50% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor fel rhan o strategaeth ehangach i annog perchnogion i wneud defnydd o gartrefi gwag tymor hir ac, mewn rhai achosion, ail gartrefi.  

 

Wrth ddod i gasgliad tynnodd y Rheolwr Refeniw sylw at yr angen i gymeradwyo swyddogion dynodedig i fynd ymlaen â chamau cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon am drethi nad ydynt wedi eu talu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton gefnogi’r argymhellion a diolchodd i’r Rheolwr Refeniw a’i dîm am eu gwaith caled wrth gyflawni’r broses flynyddol o osod Treth y Cyngor fel rhan o strategaeth gyffredinol y gyllideb.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers a oedd hi’n bosib darparu dadansoddiad o’r ffi o  ...  view the full Cofnodion text for item 113