Mater - cyfarfodydd
Welsh Government Transport Grant Funding Bids
Cyfarfod: 20/02/2018 - Cabinet (eitem 133)
133 Cynigion am Gyllid Grant Cludiant Llywodraeth Cymru PDF 80 KB
Pwrpas: Rhoi manylion yngl?n â chynigion 2018/19 am gyllid cyfalaf priffyrdd a chludiant.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu i’r Cynghorydd Thomas gyflwyno adroddiad ar Fidiau am Arian Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru oedd yn amlinellu manylion y bidiau a gyflwynwyd o dan y categorïau canlynol: Cronfa Drafnidiaeth Leol; Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol; Grant Diogelwch Ffyrdd; a Grant Llwybrau Diogel yn y Gymuned.
Cyfanswm gwerth y bidiau ar gyfer 2018/19 oedd tua £1.6m a byddid yn hysbysu’r cynghorau llwyddiannus yn Ebrill/Mai.
Dywedodd y Prif Swyddog (Strydoedd a Thrafnidiaeth) bod gan y Cyngor hanes rhagorol o gaffael cyllid drwy’r ffrydiau cyllid amrywiol oedd ar gael. Byddai’r cynlluniau o bob ardal yn cael eu hystyried ac roeddent yn ddibynnol ar fodloni meini prawf y cynllun a lefel y damweiniau ar hyd y llwybr, yn hytrach na lleoliad.
Fel ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol er mwyn darparu manylion ganlyniad y bidiau.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cynlluniau a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru am arian yn Ionawr 2018 ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.