Mater - cyfarfodydd
Approval of Costs for Batch 3 Strategic Housing and Regeneration Programme (SHARP) schemes
Cyfarfod: 20/03/2018 - Cabinet (eitem 147)
147 Cymeradwyo'r Costau ar gyfer Swp 3 Cynlluniau Tai Strategol ac Adfywio (SHARP) PDF 112 KB
Pwrpas: Cael cymeradwyaeth ar gyfer y llwyth nesaf o safleoedd i’w datblygu ar gyfer tai.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Approval of Costs for Batch 3 SHARP schemes, eitem 147 PDF 1 MB
- Enc. 2 for Approval of Costs for Batch 3 SHARP schemes, eitem 147 PDF 837 KB
- Enc. 3 for Approval of Costs for Batch 3 SHARP schemes, eitem 147 PDF 2 MB
- Enc. 4 for Approval of Costs for Batch 3 SHARP schemes, eitem 147 PDF 40 KB
- Enc. 5 for Approval of Costs for Batch 3 SHARP schemes, eitem 147 PDF 52 KB
- Enc. 6 for Approval of Costs for Batch 3 SHARP schemes, eitem 147 PDF 58 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge adroddiad Cymeradwyo’r Costau ar gyfer Swp 3 Cynlluniau Tai ac Adfywio Strategol (RhTAS) a ddarparodd wybodaeth am y cynlluniau arfaethedig, gan gynnwys lleoliad, mathau o eiddo, dyluniad a chynllun a’r costau adeiladu a ragwelir.
Dynododd yr adroddiad hefyd y dewisiadau ariannu sy’n cael eu ffafrio a manylodd ar Dybiaethau’r Cynllun Datblygu y cafodd ymarferoldeb y cynlluniau eu mesur a’u hasesu yn eu herbyn.
Dyma oedd y safleoedd a gynigiwyd i ddatblygu 92 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd:
· Nant y Gro, Gronant;
· Cyn Ganolfan y Cyngor, Dobshill; a
· Llys Dewi, Pen-y-ffordd (ger Treffynnon).
Roedd datblygiad y safleoedd hyn ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy’n flaenoriaeth strategol i’r Cyngor a chafodd y safleoedd eu cytuno ymlaen llaw i’w cynnwys yn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol. Byddai’n dod â chyfanswm nifer yr eiddo a gymeradwywyd gan y Cyngor hyd yma i 293.
Esboniodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod y Grant Tai Fforddiadwy ar gael i Awdurdodau Lleol cadw stoc oedd yn datblygu cartrefi newydd o 2018/19. Dyma oedd dyraniad mynegol Sir y Fflint: 2018/19 - £1.9m; a 2019/20 - £1.2m. Talodd y grant hyd at uchafswm o 58% o gyfanswm costau’r cynllun tros gyfnod o 30 mlynedd. Lle bo angen, bydd y Cyngor yn ystyried y defnydd o’i ecwiti ar y cyd, derbynebau perchnogaeth ar y cyd a’r cronfeydd symiau gohiriedig i gynorthwyo gydag ariannu tai fforddiadwy trwy’r rhaglen, lle’r oedd yr amodau’n caniatáu. Darparodd y tabl yn yr adroddiad fanylion y costau a ragwelwyd i bob un o’r cynlluniau arfaethedig gyda chyfanswm y Cyfrif Refeniw Tai a ragwelwyd yn dod â’r gofyniad benthyca i £9.823m.
Ychwanegodd y Cynghorydd Attridge y byddai angen caniatâd cynllunio ar y safleoedd. Mynegwyd pryderon yn y Digwyddiad Ymgynghori â’r Gymuned ynghylch y cynllun arfaethedig ar gyfer datblygiad Gronant, yn enwedig hygyrchedd y ffordd. Roedd y pryderon hynny’n cael eu hystyried gan swyddogion cyn iddynt gael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio. Dywedodd hefyd mai ymrwymiad y Cyngor oedd darparu tai fforddiadwy ar draws Sir y Fflint.
Rhoddodd y Cynghorydd Shotton sylwadau ar yr adeiladau diweddar a gwblhawyd yng Nghoed-llai ac ymrwymiad y Cyngor i ddarparu tai cymdeithasol ar draws y Sir. Darparodd Coed-llai esiampl dda o alluogi pobl leol i aros mewn cymuned wledig.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo datblygiad 92 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd yn Llys Dewi, Pen-y-ffordd, Nant y Gro, Gronant a hen Ganolfan y Cyngor, Dobshill;
(b) Cymeradwyo’r defnydd o fenthyca darbodus i werth o £9.823m (yn amodol ar gymeradwyaeth a gwirio terfynol) i ariannu datblygiad arfaethedig y cartrefi Cyngor newydd;
(c) Cymeradwyo’r defnydd o’r Grant Cartrefi Fforddiadwy o £1.903m a’r cronfeydd ecwiti ar y cyd, derbynebau perchnogaeth ar y cyd a symiau gohiriedig o gyfanswm o £1.722m i gyfrannu at gostau’r cynllun; a
(a) Nodi’r cynigion gan Gartrefi NEW i ddatblygu 17 eiddo fforddiadwy ar draws y tri safle (yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd Cartrefi NEW).