Mater - cyfarfodydd

Draft Welsh Language Promotion Strategy

Cyfarfod: 24/04/2018 - Cabinet (eitem 165)

165 Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg Drafft pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg drafft pum mlynedd ar gyfer ymgynghori ffurfiol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg Drafft, a gyflwynodd Strategaeth ddrafft o bum mlynedd i Sir y Fflint, i gael cymeradwyaeth cyn ymgynghori'n ehangach.  

 

Nododd y Strategaeth sut y gallai'r Cyngor weithio gydag asiantaethau partner ac eraill yn y gymuned, fel Cynghorau Tref a Chymuned a busnesau.

 

Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu fod y Strategaeth wedi’i chyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, lle cafodd ei chefnogi a’i chymeradwyo.

Rhoddodd y Prif Weithredwr sylw ar yr eglurhad a geisiwyd yn y cyfarfod hwnnw ar ddata yn nhabl 3 yr atodiad, ac eglurodd y cafwyd yr wybodaeth o ddata’r cyfrifiad.  Derbyniwyd y byddai strwythur cwestiynau’r cyfrifiad yn cael eu hadolygu.   Ychwanegodd fod Comisiynydd y Gymraeg wedi rhoi sylwadau cadarnhaol ar Strategaeth y Cyngor, gyda’r Chyngor yn cael ei barchu am yr hyn yr oedd wedi’i gyflawni.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Butler sylw fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir y Fflint yn uwch na sawl awdurdod arall ar draws Cymru, a oedd yn galonogol.  Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod staff derbynfa'r Cyngor yn gwisgo bathodyn i ddangos a oeddent yn siarad Cymraeg, ac fe anogwyd pobl i sgwrsio yn Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg Drafft ar gyfer ymgynghori arni;

 

(b)       Y byddai’r broses ymgynghori a’r amserlen yn cael ei chymeradwyo; a

 

(c)       Bod fersiwn terfynol y cynllun yn cael ei argymell i'w fabwysiadu yng Ngorffennaf 2018.