Mater - cyfarfodydd

Council Fund Budget 2018/19 – Third and Closing Stage

Cyfarfod: 20/02/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 98)

98 Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 – Cam Tri a Cham Olaf pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Adolygu’r dewisiadau ar gyfer trydydd cam y broses o bennu’r gyllideb, ac yna gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ddarparu argymhellion y Cabinet ar gyfer Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2018/19 - Cam Tri a'r Cam Olaf, ac roedd copïau wedi eu cylchredeg.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar y cyd oedd yn cynnwys y meysydd canlynol.  Cyfrannodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) hefyd:

 

·         Adolygu’r broses gyllido ar gyfer y dyfodol: Pwyllgor y Cyfansoddiad

·         Gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys

·         Sefyllfaoedd cenedlaethol ar Lywodraeth Leol

·         Sefyllfa genedlaethol Llywodraeth Leol

·         Drwy arloesi - arbedion effeithlonrwydd o £79 miliwn dros 10 mlynedd

·         Pethau mawr rydym wedi eu cyflawni

·         Gwytnwch y Cyngor

·         Sefyllfa leol

·         Cam Un y Gyllideb – cynlluniau busnes portffolio

·         Cam Dau'r Gyllideb - cynigion eilradd / corfforaethol

·         Cam Tri'r Gyllideb - cau a mantoli’r gyllideb

·         Safbwyntiau proffesiynol

·         Rhagolwg y dyfodol

·         Y Camau Nesaf

 

Byddai’r mewnbwn gwerthfawr gan yr holl Aelodau drwy gydol y broses gyllido yn parhau fel rhan o ymgynghoriad ar adolygiad o’r broses gyllido yn y dyfodol.  Roedd y broses gyllido fesul cam wedi galluogi cynllunio a gweithredu cynigion yn gynnar.  Roedd cymryd lefel uwch o risg yn cael ei gydnabod yn nodweddiadol o’r broses o osod cyllideb mewn cyfnod o gyfyngiad ariannol sylweddol.  Fel mater heb ei ddatrys, byddai angen i opsiynau ar gyfer cynyddu costau meysydd parcio y mae angen i’r Cabinet eu hystyried gwrdd targed incwm ychwanegol o £0.450 miliwn os bydd y gyllideb yn cael ei chymeradwyo fel y mae ar hyn o bryd.  Ar yr achosion a wnaed gan y Cyngor ar lefel genedlaethol, roedd trafodaethau  yn parhau â Llywodraeth Cymru ar y ceisiadau am hyblygrwydd lleol ar gostau gofal cartref a chadw cyfran o Ardoll Treth Prentis.

 

Roedd adolygiad y cronfeydd wrth gefn wedi bod yn drylwyr oherwydd y sefyllfa ariannol a diddordeb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.  Roedd canlyniad yr adolygiad, oedd wedi ei gylchredeg, yn manylu ar bob cronfa wrth gefn ac yn nodi bod bron i £2 miliwn o arian wrth gefn, y gellid ei ryddhau er mwyn cynorthwyo i fantoli cyllideb 2018/19.  Atgoffwyd y pwyllgor mai dim ond unwaith y gellid defnyddio’r cronfeydd wrth gefn a, phe byddent yn cael eu defnyddio ar gyfer cyllideb 2018/19, y byddai pwysau ariannol o’r un swm i’w gwrdd o 2019/20.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a phawb oedd wedi gweithio ar y gyllideb yng nghyd-destun grant llai gan y llywodraeth a mwy o alw a chostau eraill gwasanaethau.  Tra byddai modd cau’r blwch cyllideb yn llwyr drwy gynyddu Treth y Cyngor o 8%, yr argymhelliad gan y Cabinet oedd defnyddio £1.927 miliwn o gronfeydd a balansau wrth gefn gyda chynnydd o 5% mewn Treth y Cyngor er mwyn mantoli’r gyllideb yn y lle cyntaf.   Wrth gydnabod pryderon a godwyd ymysg y gymuned ysgolion, y cyhoedd ac Aelodau, argymhellodd y Cabinet gynnydd pellach yn Nhreth y Cyngor o 1.71% (gan fynd a'r cynnydd i 6.71%) i ddarparu £1.140 miliwn pellach ar gyfer cyllidebau dirprwyedig ysgolion.  Canmolodd y Cynghorydd Shotton y  ...  view the full Cofnodion text for item 98