Mater - cyfarfodydd
Council Fund Budget 2018/19 – Third and Closing Stage
Cyfarfod: 20/02/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 98)
98 Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 – Cam Tri a Cham Olaf PDF 93 KB
Pwrpas: Adolygu’r dewisiadau ar gyfer trydydd cam y broses o bennu’r gyllideb, ac yna gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Cabinet report, eitem 98 PDF 197 KB
- Enc. 2 - Appendices 1-9 to Cabinet report, eitem 98 PDF 266 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 – Cam Tri a Cham Olaf
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ddarparu argymhellion y Cabinet ar gyfer Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2018/19 - Cam Tri a'r Cam Olaf, ac roedd copïau wedi eu cylchredeg.
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar y cyd oedd yn cynnwys y meysydd canlynol. Cyfrannodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) hefyd:
· Adolygu’r broses gyllido ar gyfer y dyfodol: Pwyllgor y Cyfansoddiad
· Gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys
· Sefyllfaoedd cenedlaethol ar Lywodraeth Leol
· Sefyllfa genedlaethol Llywodraeth Leol
· Drwy arloesi - arbedion effeithlonrwydd o £79 miliwn dros 10 mlynedd
· Pethau mawr rydym wedi eu cyflawni
· Gwytnwch y Cyngor
· Sefyllfa leol
· Cam Un y Gyllideb – cynlluniau busnes portffolio
· Cam Dau'r Gyllideb - cynigion eilradd / corfforaethol
· Cam Tri'r Gyllideb - cau a mantoli’r gyllideb
· Safbwyntiau proffesiynol
· Rhagolwg y dyfodol
· Y Camau Nesaf
Byddai’r mewnbwn gwerthfawr gan yr holl Aelodau drwy gydol y broses gyllido yn parhau fel rhan o ymgynghoriad ar adolygiad o’r broses gyllido yn y dyfodol. Roedd y broses gyllido fesul cam wedi galluogi cynllunio a gweithredu cynigion yn gynnar. Roedd cymryd lefel uwch o risg yn cael ei gydnabod yn nodweddiadol o’r broses o osod cyllideb mewn cyfnod o gyfyngiad ariannol sylweddol. Fel mater heb ei ddatrys, byddai angen i opsiynau ar gyfer cynyddu costau meysydd parcio y mae angen i’r Cabinet eu hystyried gwrdd targed incwm ychwanegol o £0.450 miliwn os bydd y gyllideb yn cael ei chymeradwyo fel y mae ar hyn o bryd. Ar yr achosion a wnaed gan y Cyngor ar lefel genedlaethol, roedd trafodaethau yn parhau â Llywodraeth Cymru ar y ceisiadau am hyblygrwydd lleol ar gostau gofal cartref a chadw cyfran o Ardoll Treth Prentis.
Roedd adolygiad y cronfeydd wrth gefn wedi bod yn drylwyr oherwydd y sefyllfa ariannol a diddordeb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Roedd canlyniad yr adolygiad, oedd wedi ei gylchredeg, yn manylu ar bob cronfa wrth gefn ac yn nodi bod bron i £2 miliwn o arian wrth gefn, y gellid ei ryddhau er mwyn cynorthwyo i fantoli cyllideb 2018/19. Atgoffwyd y pwyllgor mai dim ond unwaith y gellid defnyddio’r cronfeydd wrth gefn a, phe byddent yn cael eu defnyddio ar gyfer cyllideb 2018/19, y byddai pwysau ariannol o’r un swm i’w gwrdd o 2019/20.
Wrth gynnig yr argymhellion, diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a phawb oedd wedi gweithio ar y gyllideb yng nghyd-destun grant llai gan y llywodraeth a mwy o alw a chostau eraill gwasanaethau. Tra byddai modd cau’r blwch cyllideb yn llwyr drwy gynyddu Treth y Cyngor o 8%, yr argymhelliad gan y Cabinet oedd defnyddio £1.927 miliwn o gronfeydd a balansau wrth gefn gyda chynnydd o 5% mewn Treth y Cyngor er mwyn mantoli’r gyllideb yn y lle cyntaf. Wrth gydnabod pryderon a godwyd ymysg y gymuned ysgolion, y cyhoedd ac Aelodau, argymhellodd y Cabinet gynnydd pellach yn Nhreth y Cyngor o 1.71% (gan fynd a'r cynnydd i 6.71%) i ddarparu £1.140 miliwn pellach ar gyfer cyllidebau dirprwyedig ysgolion. Canmolodd y Cynghorydd Shotton y ... view the full Cofnodion text for item 98