Mater - cyfarfodydd

Development of Capital Programme 2018/19 - 20/21

Cyfarfod: 15/02/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 66)

66 Datblygu Rhaglen Gyfalaf 2018/19 – 2020/21 pdf icon PDF 226 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y cyfnod  2018/19 i 20/21.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr (Newid Sefydliadol) adroddiad ar ddatblygiad Rhaglen Gyfalaf 2018/19-2020/21.  Roedd hyn yn cysylltu â’r Strategaeth Gyfalaf a’r Cynllun Rheoli Asedau a oedd i’w diweddaru yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn cefnogi blaenoriaethau cyfredol y Cyngor a blaenoriaethau mwy hirdymor sy’n dod i’r amlwg ac er mwyn adlewyrchu’r newidiadau i Godau Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Cyhoeddus (CIPFA). 

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid – Cyfrifeg Technegol, eglurhad ar yr amrywiol dablau yn yr adroddiad yn dangos y cynlluniau dynodedig wedi’u rhannu’n dair adran – Statudol/Rheolaethol, Asedau Argadwedig a Buddsoddiad.   Roedd cynnydd o ran mynd i’r afael â’r diffyg amcangyfrifedig o £3.187m yng nghyllideb 2017/18 -19/20 wedi ffurfio rhan o’r adroddiadau monitro cyllideb rheolaidd a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ac roedd cyflawniad y derbyniadau cyfalaf a ragwelwyd  wedi helpu i noddi’n llawn y rhaglen a gymeradwywyd ar gyfer 2017/18-20/21. Mae hyn yn dangos effeithiolrwydd polisi darbodus y Cyngor  o beidio â defnyddio derbynebau cyfalaf oni bai eu bod wedi eu gwireddu.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi bod uchelgeisiau’r Cyngor yn gorbwyso’r cyllid sydd ar gael i gynnal y rhaglen dros y tair blynedd nesaf a dywedwyd y byddai cyllid Llywodraeth Cymru yn lleihau o £0.118m ar gyfer 2018/19.  Byddai’n rhaid ariannu’r diffyg cyffredinol o £8.216m ar gyfer ariannu cynlluniau arfaethedig yn ystod y cyfnod drwy gyflawni derbyniadau cyfalaf y dyfodol (a amcangyfrifir ar hyn o bryd i fod tua £8.3) neu opsiynau eraill megis grantiau amgen, benthyca darbodus neu gyflwyno cynlluniau fesul cam.

 

Cyfeiriodd Cynghorydd Shotton at amrywiol gynlluniau yn Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai sy’n cyflenwi Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor, a’r defnydd o asedau cyfalaf yn y Rhaglen Tai Cymdeithasol ac Adfywio. Amlygodd nifer o gynlluniau ychwanegol yn y Rhaglen Gyfalaf megis uwchraddio toiledau ysgolion, ymestyn/ailfodelu yn yr Hob a Bagillt ac adsefydlu cyfleuster gwasanaethau dydd pobl ag anableddau dysgu Glanrafon.

 Diolchodd hefyd i’w gydweithiwr ar GLlLC, Cynghorydd Andrew Morgan (Arweinydd Cynon Taf) am ei ran yn y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid i gefnogi gwelliannau i’r priffyrdd lleol, gan gynnwys siâr o £1.427m ar gyfer Sir y Fflint

 

Holodd Cynghorydd Cunningham yngl?n â’r dyraniad a gymeradwywyd ar gyfer yr archwiliad o Bont Sir y Fflint a dywedwyd wrtho y byddai’n rhaid dadansoddi’r canlyniadau.  Tra bo’r Cyngor ar hyn o bryd yn atebol am gost unrhyw waith adferol  sy’n dod i’r amlwg yn yr archwiliad, gallai’r cyfrifoldeb am y ffordd dros y bont newid unwaith y bydd yr A494 yn dod yn ‘ffordd goch’ oherwydd y byddai'n dod yn rhan o gefnffordd ac felly’n gyfrifoldeb LlC. Yn dilyn trafodaethau pellach, cynigiodd Cynghorydd Marion Bateman y dylai’r Pwyllgor groesawu trafodaethau cynnar gyda LlC am y cydgyfrifoldeb dros unrhyw gostau sy’n deillio o’r  archwiliad, yng ngoleuni maint posibl y risg hwn.  Dywedwyd y byddai canlyniad yr archwiliad yn cael  ei adrodd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a hefyd, os bydd yn effeithio ar y Rhaglen Gyfalaf, i’r Pwyllgor hwn.

 

Dywedodd Cynghorydd Jones ei bod yn bwysig deall effaith gwariant cyfalaf ar gynlluniau newydd  ...  view the full Cofnodion text for item 66