Mater - cyfarfodydd

Appraisals Progress Report

Cyfarfod: 17/05/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 10)

10 Adroddiad Cynnydd Arfarniadau pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad i’r Pwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad yn dangos dadansoddiad manwl o faint o werthusiadau a gwblhawyd ar draws pob portffolio.

                         

Roedd dadansoddiad o’r cynnydd gyda gwerthusiadau ym mhob portffolio yn dangos bod Newid Sefydliadol 1 a 2, y Prif Weithredwr, wedi cyrraedd 100%. Mynegodd y Prif Weithredwr ei siom nad oedd pob portffolio wedi cael 100%. Er hynny, llwyddwyd i gael cyfradd o 86% ar draws yr Awdurdod ac roedd hynny’n gryn welliant ar y flwyddyn flaenorol.

 

                        Esboniodd yr Uwch Reolwr fod rhai portffolios wedi methu â chael 100% oherwydd bod adolygiadau o Wasanaethau’n cael eu cynnal. Dywedwyd yn glir wrth reolwyr ym mhob portffolio bod yn rhaid iddynt lunio cynllun prosiect clir a bod amser wedi cael ei dreulio yn briffio rheolwyr i fod yn fwy rhagweithiol. Cytunwyd y dylid cadw’r targed o 100% ac nid ei dynnu i lawr. Ailadroddodd yr Aelod Cabinet dros Asedau a Rheolaeth Gorfforaethol fod y Prif Weithredwr a’r Uwch Reolwr wedi rhoi neges glir i reolwyr fod hyn wedi’i wneud.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones ei fod yn siomedig na chafwyd cyfradd gwblhau o 100%. Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â nifer yr eithriadau – gweithwyr mewn ysgolion, gweithwyr yn 6 mis cyntaf eu cyflogaeth (dechreuwyr newydd) a gweithwyr y bu/y mae eu rheolwr gwerthuso yn absennol am gyfnod hir, cytunodd y Prif Weithredwr y byddai Penaethiaid yn cael cais i ddarparu ffigurau ac y byddai’r eithriad ar gyfer gweithwyr y bu/y mae eu rheolwr gwerthuso yn absennol am gyfnod hir yn cael ei ddileu. Esboniodd yr Uwch Rheolwr fod gan weithwyr newydd gyfnod prawf a’u bod yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, felly na ddeuent o dan y system werthuso hon.

                       

                        Yn dilyn cwestiynau gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Paul Cunningham a’r Cynghorydd Hilary McGuill, esboniodd yr Uwch Reolwr nad oedd cylchred gwerthuso pendant ar draws y Cyngor, y byddai hwn yn amrywio rhwng pob portffolio ac y câi ei redeg ar draws y flwyddyn gyfan. Atgoffwyd yr Aelodau  fod Rheolwyr yn cael e-bost awtomatig i’w hatgoffa pan oedd yn bryd cynnal gwerthusiad blynyddol gweithiwr.

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr i sylwadau gan y Cynghorydd Richard Jones yngl?n â darparu data ar lefel gwasanaethau yn hytrach nag ar lefel portffolios. 

 

Byddai gofyn i’r holl Brif Swyddogion lunio cynllun gweithredu i ddarparu sicrwydd ar amserlennu a chwblhau gwerthusiadau ar gyfer y flwyddyn gyfredol, gan gynnwys gwneud defnydd llawn o iTrent ar gyfer cadw cofnodion, a byddai adroddiad cynnydd canol blwyddyn yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad cynnydd yn amodol ar:

 

(a)       Y gofynnir i Benaethiaid ddarparu data gwerthuso ar gyfer gweithwyr ysgolion.

 

(b)       Y darperir adroddiad cynnydd ar Werthusiadau yn flynyddol ynghyd ag adroddiad interim chwe misol. 

 

(c)        Bod yr eithriad i weithwyr y mae eu rheolwr yn absennol am gyfnod hir yn cael ei ddileu o’r rhestr o eithriadau.

 

(d)       Bod y data yn cael ei ddarparu ar lefel gwasanaethau yn hytrach nag ar lefel portffolios.

 

(e)       Y pwysleisir wrth Brif  ...  view the full Cofnodion text for item 10