Mater - cyfarfodydd
School Admission Arrangements 2019/20
Cyfarfod: 20/03/2018 - Cabinet (eitem 153)
153 Trefniadau Derbyniadau Ysgol 2019 PDF 88 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod i'r Cabinet am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ynghylch trefniadau derbyn 2019 ac I argymell eu cymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Admissions Timetable 2018/19, eitem 153 PDF 107 KB
- Appendix 2 - Primary School Admission Numbers, eitem 153 PDF 69 KB
- Appendix 3 - Secondary School Admission Numbers, eitem 153 PDF 62 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2019/20 a roddodd wybod am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ar y trefniadau derbyn ar gyfer mis Medi 2019.
Mae’r trefniadau derbyn presennol wedi bod ar waith er 2003 a pharhawyd i fodloni mwyafrif y dewisiadau rhieniol, sef 96%.
Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau i’r meini prawf gordanysgrifio derbyniadau ond achubwyd ar y cyfle i adolygu ac egluro rhywfaint o’r geiriad. Amlinellwyd y geiriad diwygiedig yn yr Atodiad ac fe’i crynhowyd fel:
- Cyfeiriad cartref – eglurhad mai cyfrifoldeb y rhieni oedd dod i gytundeb ar y dewisiadau a fynegwyd mewn cais;
- Pellter – diweddarwyd y diffiniad o ran sut roedd pellter yn cael ei gyfrifo i adlewyrchu arfer cyfredol; ac
- Roedd rhestrau aros gyda nifer o bwyntiau’n cael eu hegluro.
Cymerwyd y cyfle hefyd i ddiwygio’r niferoedd derbyn i ddwy ysgol er mwyn adlewyrchu’r newidiadau mewn ystafelloedd. Y rhain oedd Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug ac Ysgol Gynradd Brychdyn.
Gwnaed ceisiadau am leoedd gan ddefnyddio system ar-lein y Cyngor ac roedd hyn yn gweithio’n dda. Darparwyd cymorth gan staff y Cyngor i unrhyw rieni oedd yn cael anawsterau’n llenwi neu’n cyflwyno’r ffurflen ar-lein. Roedd bellach 100% o geisiadau’n dod i law ar-lein ond byddai copïau papur o ffurflenni cais yn parhau i fod ar gael o ofyn.
Gofynnodd y Cynghorydd Thomas am ailadrodd i rieni fod cludiant ysgol am ddim ar gael i’r ysgol agosaf yn unig a chadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai hyn yn digwydd. Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Thomas ar ysgolion yn dod yn llawn, esboniodd y Prif Swyddog fod y Tîm Cynllunio Lleoedd Ysgol yn defnyddio model cydnabyddedig ar gyfer y cynnyrch potensial y byddai unrhyw ddatblygiadau newydd yn esgor arnynt. Petai ysgol yn llawn, byddai lle arall yn cael ei gynnig ac roedd opsiwn i apelio hefyd.
Soniodd y Cynghorydd Bithell ar bwysigrwydd rhoi gwybod i rieni am yr angen i nodi mwy nag un dewis ar y ffurflen gais, ac esbonio na fyddai gwneud hynny’n effeithio ar eu cais cyntaf am le.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2019/20.