Mater - cyfarfodydd
Quarter 3 Council Plan 2017/18 Monitoring Report
Cyfarfod: 20/02/2018 - Cabinet (eitem 136)
136 Adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 2017/18 PDF 147 KB
Pwrpas: Cytuno ar y lefelau cynnydd Chwarter 3 wrth gyflawni gweithgarwch, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu i’r Prif Weithredwr gyflwyno Adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor 2017/18 Chwarter 3.
Roedd adroddiad Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol, ac aseswyd bod 81% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da, a 69% yn debygol o gyflawni’r deilliant a ddymunir. Roedd dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da, a 84% yn cyrraedd y targed ar gyfer y cyfnod neu’n agos ati.
Hefyd roedd risgiau yn cael eu rheoli’n llwyddiannus, a’r rhan fwyaf yn cael eu hasesu fel cymedrol (67%) neu fychan (10%). Mewn perthynas â’r prif risgiau coch, roedd y cyfan yn gysylltiedig â chyllidebu.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi a chymeradwyo lefelau cynnydd, perfformiad a lefelau risgiau yn adroddiad Cynllun y Cyngor 2017/18 Chwarter 3; a
(b) Bod y Cabinet yn cael sicrwydd o ganlyniad i’r camau i reoli sut y gweithredir Cynllun y Cyngor 2017/18.