Mater - cyfarfodydd

Learner Outcomes

Cyfarfod: 01/02/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 41)

41 Canlyniadau Dysgwyr pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        I roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ganlyniadau Dysgwr yn 2017

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i ddarparu diweddariad ar Ganlyniadau Dysgwyr yn 2017.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) yn parhau i weithio’n agos gyda’r Awdurdod Lleol i sicrhau bod yr holl ysgolion, ac yn enwedig yr ysgolion uwchradd, yn olrhain cynnydd eu disgyblion yn gywir yn erbyn targedau a gyhoeddwyd er mwyn sicrhau gwell cyfatebiaeth rhwng y canlyniadau a ragwelir a’r canlyniadau gwirioneddol. 

 

                        Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie nifer o bryderon yngl?n â chanlyniadau Cyfnod Allweddol 4 a dywedodd fod dirywiad parhaus wedi bod ym mherfformiad Cyfnod Allweddol 4 yn ystod y blynyddoedd diweddar.  Roedd o’r farn y dylai Sir y Fflint fod yn uwch na’r 6ed safle yn y tablau perfformio. Ymatebodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) i’r sylwadau a phryderon a fynegwyd ac esboniodd mai’r 6ed safle oedd safle lleiaf y sir ond bod ganddynt ddyheadau uwch. 

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at Ganlyniadau Cyfnod Allweddol 5 - 2017, fel y nodwyd yn atodiad 2 yr adroddiad a gofynnodd a fyddai’n bosibl darparu data cymharol ar gyfer Coleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy a Choleg Cambria. Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Prif Swyddog Dros Dro i’r sylwadau a’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Mackie ac esboniodd fod y meini prawf derbyn ar gyfer myfyrwyr Coleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy yn wahanol i feini prawf derbyn ysgolion uwchradd Sir y Fflint.    

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Geoff Collett hefyd ar ganlyniadau Cyfnod Allweddol 5 a gofynnodd am gynnwys gwybodaeth yngl?n â nifer y myfyrwyr na wnaeth gwblhau eu cyrsiau a’r rhesymau pam na wnaethant, yn Adroddiadau Canlyniadau Dysgwyr y dyfodol. Cytunodd y Prif Swyddog Dros Dro y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno yn adroddiadau’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n â phresenoldeb mewn ysgolion ac absenoldeb anawdurdodedig, dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro fod Llywodraeth Cymru yn caniatáu i rieni gael hyd at 10 diwrnod o absenoldeb anawdurdodedig.  Er gwaethaf ymdrechion ysgolion i annog rhieni i beidio â chymryd eu plant allan o’r ysgol yn ystod y tymor, a’r wybodaeth a ddarparwyd ar effaith colli diwrnod o addysg, esboniodd fod rhai rhieni yn ystyried y penderfyniad fel ‘hawl’.  Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro sicrwydd fod gan ysgolion brosesau a data cadarn yn eu lle i adnabod patrymau presenoldeb a gweithdrefnau cadarn i fynd i’r afael â phroblem diffyg presenoldeb ymhlith disgyblion.

 

Dywedodd Mrs. Rebecca Stark y dylai ysgolion gael eu canmol am eu perfformiad yn yr hinsawdd ariannol bresennol a gofynnodd i’r neges honno gael ei rhoi i’r ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at yr angen i ddarparu cymorth personol i benaethiaid a staff sydd yn y ‘rheng-flaen’ ac yn wynebu effeithiau’r toriadau ariannol i’r gyllideb addysg. Roedd y Prif Swyddog Dros Dro yn cydnabod bod ysgolion o dan bwysau mawr a rhoddodd ei sicrwydd fod cymorth dynodedig ar gael gan ymarferwyr iechyd meddwl a bod cymaint o  ...  view the full Cofnodion text for item 41