Mater - cyfarfodydd
Learner Outcomes
Cyfarfod: 01/02/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 41)
41 Canlyniadau Dysgwyr PDF 83 KB
Pwrpas: I roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ganlyniadau Dysgwr yn 2017
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Key Stage 4 Outcomes, eitem 41 PDF 82 KB
- Appendix 2 - Key Stage 5 Outcomes, eitem 41 PDF 59 KB
- Appendix 3 - Attendance & Exclusion Outcomes, eitem 41 PDF 94 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i ddarparu diweddariad ar Ganlyniadau Dysgwyr yn 2017. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) yn parhau i weithio’n agos gyda’r Awdurdod Lleol i sicrhau bod yr holl ysgolion, ac yn enwedig yr ysgolion uwchradd, yn olrhain cynnydd eu disgyblion yn gywir yn erbyn targedau a gyhoeddwyd er mwyn sicrhau gwell cyfatebiaeth rhwng y canlyniadau a ragwelir a’r canlyniadau gwirioneddol.
Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie nifer o bryderon yngl?n â chanlyniadau Cyfnod Allweddol 4 a dywedodd fod dirywiad parhaus wedi bod ym mherfformiad Cyfnod Allweddol 4 yn ystod y blynyddoedd diweddar. Roedd o’r farn y dylai Sir y Fflint fod yn uwch na’r 6ed safle yn y tablau perfformio. Ymatebodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) i’r sylwadau a phryderon a fynegwyd ac esboniodd mai’r 6ed safle oedd safle lleiaf y sir ond bod ganddynt ddyheadau uwch.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at Ganlyniadau Cyfnod Allweddol 5 - 2017, fel y nodwyd yn atodiad 2 yr adroddiad a gofynnodd a fyddai’n bosibl darparu data cymharol ar gyfer Coleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy a Choleg Cambria. Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Prif Swyddog Dros Dro i’r sylwadau a’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Mackie ac esboniodd fod y meini prawf derbyn ar gyfer myfyrwyr Coleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy yn wahanol i feini prawf derbyn ysgolion uwchradd Sir y Fflint.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Geoff Collett hefyd ar ganlyniadau Cyfnod Allweddol 5 a gofynnodd am gynnwys gwybodaeth yngl?n â nifer y myfyrwyr na wnaeth gwblhau eu cyrsiau a’r rhesymau pam na wnaethant, yn Adroddiadau Canlyniadau Dysgwyr y dyfodol. Cytunodd y Prif Swyddog Dros Dro y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno yn adroddiadau’r dyfodol.
Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n â phresenoldeb mewn ysgolion ac absenoldeb anawdurdodedig, dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro fod Llywodraeth Cymru yn caniatáu i rieni gael hyd at 10 diwrnod o absenoldeb anawdurdodedig. Er gwaethaf ymdrechion ysgolion i annog rhieni i beidio â chymryd eu plant allan o’r ysgol yn ystod y tymor, a’r wybodaeth a ddarparwyd ar effaith colli diwrnod o addysg, esboniodd fod rhai rhieni yn ystyried y penderfyniad fel ‘hawl’. Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro sicrwydd fod gan ysgolion brosesau a data cadarn yn eu lle i adnabod patrymau presenoldeb a gweithdrefnau cadarn i fynd i’r afael â phroblem diffyg presenoldeb ymhlith disgyblion.
Dywedodd Mrs. Rebecca Stark y dylai ysgolion gael eu canmol am eu perfformiad yn yr hinsawdd ariannol bresennol a gofynnodd i’r neges honno gael ei rhoi i’r ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at yr angen i ddarparu cymorth personol i benaethiaid a staff sydd yn y ‘rheng-flaen’ ac yn wynebu effeithiau’r toriadau ariannol i’r gyllideb addysg. Roedd y Prif Swyddog Dros Dro yn cydnabod bod ysgolion o dan bwysau mawr a rhoddodd ei sicrwydd fod cymorth dynodedig ar gael gan ymarferwyr iechyd meddwl a bod cymaint o ... view the full Cofnodion text for item 41