Mater - cyfarfodydd
Development of 2018/19 - 2020/21 Capital Programme
Cyfarfod: 20/02/2018 - Cabinet (eitem 129)
129 Datblygu Rhaglen Gyfalaf 2018/19 – 20/21 PDF 336 KB
Pwrpas: Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2018/19 i 20/21.
Cofnodion:
Bu i’r Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) gyflwyno adroddiad ar Ddatblygu Rhaglen Cyfalaf 2018/19 - 2020/21.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid bod yr adroddiad yn adeiladu ar y Strategaeth Cyfalaf a'r Cynllun Rheoli Asedau a fabwysiadwyd ym mis Chwefror 2016 a’i bod yn rhannu Rhaglen Cyfalaf Cronfa’r Cyngor yn dair adran:
- Statudol/Rheoleiddiol - dynodiadau er mwyn talu am waith rheoleiddiol a statudol - mae enghreifftiau yn cynnwys darparu cymorth i wella ac addasu cartrefi yn y sector preifat (Grantiau cyfleusterau anabl), addasiadau i ysgolion ar gyfer plant ag anableddau, unrhyw waith sydd ei angen er mwyn cadw adeiladau yn agored yn unol â gofynion Iechyd a Diogelwch;
- Asedau a Gadwir - dynodiadau er mwyn ariannu gwaith seilwaith er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau a busnes. Dynodiadau i ariannu cynlluniau oedd yn cynnal, cyfoethogi a gwella asedau a seilwaith a gadwir er mwyn darparu gwasanaethau. Anghenion sylweddol a glustnodwyd gan gynlluniau gwasanaethau/arolygon cyflwr; a
- Buddsoddiad - er mwyn talu am gostau a ysgwyddwyd wrth ailfodelu a buddsoddi mewn gwasanaethau. Cynlluniau newydd sy’n deillio o gynlluniau busnes Portffolio, Cynllun y Cyngor, cynlluniau perthnasol a newydd eraill, a strategaethau eraill neu flaenoriaethau arfaethedig y Cyngor a gymeradwywyd drwy broses ddethol yn seiliedig ar ddarparu achos busnes cydnerth.
Bu i Dablau 1 a 2 yn yr adroddiad ddangos cynlluniau a gymeradwywyd gan y Cyngor yn Chwefror 2017 ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2017/18 - 2019/20 a sut yr oedd y rhaglenni hynny yn cael eu cyllido. Pan sefydlwyd y rhaglen roedd yna ddiffyg cyllid cyffredinol o £3.187m, er bod cynlluniau ar gyfer 2017/18 wedi eu cyllido’n llawn. Cadwyd y diffyg cyllid ar gyfer rhaglenni 2018/19 a 2019/20 yn hyblyg gydag opsiynau oedd yn cynnwys cyfuniad o dderbynebau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau amgen, benthyca darbodus neu raddoli cynlluniau dros nifer o flynyddoedd. Adroddwyd yn rheolaidd a gynnydd mewn perthynas â delio â’r diffyg hwnnw i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Craffu ar Adnoddau Corfforaethol yn ystod 2017/18. Erbyn hynny derbyniwyd derbynebau cyfalaf oedd yn golygu bod y rhaglen a gymeradwywyd ar gyfer 2017/18 - 2019/20 wedi cael ei chyllido’n llawn gyda gwarged bychan o £0.201m.
Roedd Tabl 3 yr adroddiad yn esbonio’r cyllid cyfalaf cyffredinol y rhagamcanwyd fyddai ar gael er mwyn cyllido’r Rhaglen Gyfalaf n ystod y 3 blynedd nesaf. Roedd y Cyngor wedi datblygu polisi darbodus o ganiatáu derbynebau cyfalaf yn unig i gyllido prosiectau cyfalaf pan dderbyniwyd derbynebau. Roedd yr holl gynlluniau a gynigwyd ar gyfer eu cynnwys wedi buddsoddi mewn asedau a/neu modelau o ddarparu gwasanaeth oedd wedi eu hailwampio. Gellid cyllido mwyafrif y rhaglen gan dderbynebau cyfalaf a dyraniadau cyllido LlC, er y byddai yna ddiffyg bychan fyddai’n golygu cyllido drwy fenthyca, fyddai’n arwain at oblygiadau o ran refeniw. Felly, roedd cynlluniau wedi eu graddoli dros gyfnod o 3 blynedd er mwyn sicrhau bod blwyddyn ariannol 2018/19 wedi ei chyllido’n llawn.
Roedd Tabl 4 yn dangos y dyraniadau arfaethedig ar gyfer cyfnod 2018/19 - 2020/21 ar gyfer Asedau Statudol / Rheoleiddiol a Gadwir y Rhaglen Gyfalaf. Roedd Tabl 5 yn dangos y cynlluniau ... view the full Cofnodion text for item 129