Mater - cyfarfodydd

Alternative Delivery Models Update (Social Care - Learning Disability Day Care and Work Opportunities)

Cyfarfod: 29/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 43)

Y Diweddaraf am Fodelau Darparu Amgen: Gofal Cymdeithasol - Cyfleoedd Gwaith a Gofal Dydd Anableddau Dysgu

Pwrpas:        Darparu diweddariad am y cynnydd gyda sefydlu Model Darparu Amgen ar gyfer Cyfleoedd Gwaith a Gofal Dydd Anableddau Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) adroddiad diweddaru am y cynnydd wrth sefydlu Model Darparu Amgen ar gyfer Gofal Dydd Anableddau Dysgu a Chyfleoedd Gwaith.

 

Atgoffwyd pawb gan yr Uwch Reolwr – Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion mai amcan y Model Darparu Amgen oedd sefydlu gwasanaeth cynaliadwy drwy gomisiynu darparwr profiadol gyda gwerthoedd cymdeithasol.  Siaradodd am rôl y Bwrdd Trawsnewid wrth oruchwylio’r prosiect ac ymwneud y defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd er mwyn sicrhau diwydrwydd dyladwy wrth gwblhau’r contract.

 

Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton am y gwaith a wnaed gan swyddogion ac Aelodau.  Dywedodd fod y Cyngor wedi gweld pwysigrwydd parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth gwerthfawr hwn, nad oedd yn ddyletswydd statudol.  Byddai’r Model Darparu Amgen o gymorth i gefnogi datblygiad yr adnodd newydd oedd i ddod yn lle'r ganolfan ddydd anableddau dysgu gyfredol yng Nglanrafon yn Queensferry.

 

Canmolodd yr Aelodau’r adroddiad a dywedwyd y dylid adrodd am y cynnydd yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Wrth ymateb i gwestiynau, rhoddodd swyddogion eglurhad ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys mynediad at gyllid grant, y broses ddethol ar gyfer y darparwr gwasanaeth, ac amodau’r contract.  Cyfeiriodd y Rheolwr Comisiynu at y dull gweithredu tryloyw o ran materion ariannol y bartneriaeth a chytunodd i ddarparu ymateb ar wahân ar werth y contract.  Dywedodd yr Uwch Reolwr y byddai angen i’r Bwrdd Trawsnewid ystyried y trefniadau ar gyfer ymweliadau rota.

 

Talodd y Cynghorydd Christine Jones deyrnged i ymdrechion y tîm a’r ddau Brif Swyddog yn ystod y broses, a’r dull o gynnwys pawb oedd yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, cydweithwyr Undebau Llafur a gweithwyr.

 

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi cais y Cadeirydd i wneud newid mân i'r argymhelliad er mwyn adlewyrchu'r pwyntiau a wnaed.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi bod y Cyngor am barhau i gefnogi’r gwasanaeth ac yn cydnabod yr ymdrechion a wneir gan staff; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi ei wneud hyd yma, ac yn cefnogi’r cynnydd sydd wedi ei wneud o ran gweithredu’r Model Darparu Amgen ar gyfer Gofal Cymdeithasol – Gofal Dydd Anableddau Dysgu a Chyfleoedd Gwaith.