Mater - cyfarfodydd

Flintshire Supporting People Programme Grant Local Spend Plan and Regional Strategic Plan

Cyfarfod: 20/02/2018 - Cabinet (eitem 135)

135 Cynllun Gwario Lleol a Chynllun Strategol Rhanbarthol Grant Rhaglen Cefnogi Pobl Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Derbyn cymeradwyaeth i Gynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl a Cynllun Gwario Grant Rhaglen Cefnogi Pobl 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Attridge gyflwyno Grant Rhaglen Cefnogi Pobl Sir y Fflint, y Cynllun Gwariant Lleol a’r Cynllun Strategol Rhanbarthol, a ddatblygwyd er mwyn alinio â’r blaenoriaethau a nodwyd  yng Nghynllun Strategol Rhanbarthol Cefnogi Pobl Gogledd Cymru.

 

            Ar ôl i lywodraeth leol gyflwyno achos cryf, roedd yn falch o adrodd bod y grant wedi ei sicrhau ar gyfer 2018/19.

 

            Roedd yr adroddiad yn rhoi crynhoad o’r pwysau ar y gwasanaeth digartrefedd a’r risg o faich ariannol cynyddol i’r Cyngor.  Bu i Wasanaethau Cefnogi Pobl chwarae rôl allweddol o ran cyfrannu i atal digartrefedd ac roedd targedu cyllido at wasanaethau sy’n atal digartrefedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth strategol i’r Cyngor.

           

            Bu i’r Prif Swyddog (Cymuned a Menter) roi sylwadau ar y risg i’r gyllideb refeniw yn y blynyddoedd sydd i ddod ar gyfer atal digartrefedd oherwydd bod y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2019/2020 yn dangos bod llinell gyllideb Cefnogi Pobl yn cael ei gostwng i sero.  Roedd y cyllid fyddai fel arfer yn cael ei ddyrannu yn cael ei symud i linell cyllideb newydd o’r enw ‘Ymyrraeth Gynnar - Grant Atal a Chymorth’ oedd yn uno cyllidebau Ddechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Cronfa Waddol Cymunedau’n Gyntaf a Grant Cyflogaeth newydd, oedd yn golygu cyfanswm cyllideb o £252 ar draws Cymru.  Fodd bynnag, roedd hynny yn £13m yn llai na chyfanswm cyfun  y rhai a roddwyd yn 2018/19.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Cynllun Gwariant Lleol ar gyfer 2018/19 a Chynllun Strategol Gogledd Cymru.