Mater - cyfarfodydd
Quarter 3 Council Plan 2017/18 Monitoring Report
Cyfarfod: 12/04/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 49)
49 Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 PDF 127 KB
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 y Cyngor 2017/18. Cynghorodd bod yr Adroddiad yn cyflwyno’r cynnydd monitro ar ddiwedd Chwarter 3 o Gynllun y Cyngor ar gyfer y flaenoriaeth ‘Cyngor sy’n Dysgu’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.
Eglurodd y Prif Swyddog Interim bod yr Adroddiad Monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol gydag 81% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad, a 69% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Roedd y dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gydag 84% yn cyfarfod neu bron a chyfarfod targed y cyfnod. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (67%) neu’n fân risgiau (10%).
Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yna ddangosyddion perfformiad yn dangos statws coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor. Dywedodd fod yna dri phrif risg (coch) a nodwyd ar gyfer y Pwyllgor fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Dywedodd yr Hwylusydd y byddai gweithdy ‘Deall Adroddiadau Perfformiad' yn cael ei gynnal i’r holl Aelodau ar ddiwedd mis Mehefin / ar ddechrau mis Gorffennaf, i gysylltu ag adroddiad alldro Cynllun y Cyngor i’r Cyngor ar 19 Mehefin 2018.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at dudalen 236, IP 3.1.1.12 M12 a gofynnodd am eglurhad ar y nifer o ddyfodiaid tro cyntaf. Hefyd, gofynnodd am y dyddiad cychwyn a 50% o ddata wedi'i gwblhau a ddarparwyd yn erbyn IP 3.1.1.2 ar dudalen 234.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi gyda phryder y risgiau sy’n ymwneud â’r adroddiad oedd yn gysylltiedig â chaledi a chyllid isel y Cyngor.