Mater - cyfarfodydd

Integrated Transport Solution for the Deeside Area

Cyfarfod: 23/01/2018 - Cabinet (eitem 115)

115 Datrysiad Trafnidiaeth Integredig Ardal Glannau Dyfrdwy pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Diweddaru’r Cabinet am gynnydd y datrysiad trafnidiaeth integredig ar gyfer ardal Glannau Dyfrdwy.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad ar Ddatrysiad Cludiant Integredig Ardal Glannau Dyfrdwy.

 

            Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yw un o ystadau diwydiannol mwyaf Cymru, gyda tua 400 o fusnesau’n cyflogi tua 9,000 o bobl, ac mae’r Parc wedi dod yn un o rymoedd economaidd allweddol y rhanbarth.  Mae’r ardal gyfagos wedi bod yn destun nifer o astudiaethau diweddar, gyda phob un yn dod i’r casgliad mai un o’r prif ffactorau sy’n cyfyngu ar dwf yw’r cysylltiadau cludiant gwael i mewn ac o amgylch y Parc. Er mwyn darparu datrysiad cludiant cynaliadwy hirdymor, rhaid integreiddio pob dull o gludiant yn llwyddiannus a darparu ar gyfer gofynion pob un, gan gynnal a hyrwyddo Gwasanaeth Cludiant Cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac ecogyfeillgar yn greiddiol iddo ar yr un pryd.

 

            Amlinellodd yr adroddiad y prif yrwyr ar gyfer newid a’r ymyriadau allweddol ar gyfer llwybr beiciau a theithio llesol, gwelliannau i’r briffordd, y rhwydwaith bysiau a gwelliannau i’r rheilffordd.

 

            Darparodd y cynigion cyffredinol lwyfan y gellid ei ledaenu o ran cwmpas i ddarparu datrysiad cludiant ar gyfer mannau cyflogaeth allweddol lleol eraill, yn enwedig Brychdyn a’r safle Airbus cyfagos.  

 

            Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Attridge, eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn ymwneud â darparu mynediad didrafferth i bobl sydd eisiau gweithio yn yr ardal ond yn byw mewn Siroedd eraill yn y Gogledd neu’r Canolbarth a Gogledd-orllewin Lloegr.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a’r cynnydd a wnaed, oedd yn ganlyniad i waith y Cabinet yn hyrwyddo, ymgyrchu a lobïo am ddatrysiad ar gyfer Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ers blynyddoedd lawer. Gwnaeth sylwadau ar nifer y cyfleoedd y byddai hyn yn ei agor i’r Sir, y Gogledd a’r Canolbarth a Gogledd-orllewin Lloegr.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Roberts am i unrhyw newidiadau arfaethedig i batrymau aros ar linell reilffordd Arfordir Gogledd Cymru a chynigion ar gyfer ffioedd meysydd parcio gorsafoedd rheilffyrdd gael eu cyflwyno i’r Cabinet.

 

            Croesawodd y Cynghorwyr Butler a Bithell yr adroddiad hefyd, gan ddweud y byddai o fudd i gadw gweithwyr ar y Parc. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod yn falch o weld y gwelliannau arfaethedig i Barth 3, y gwelliannau i’r llwybr beicio a’r arhosfan lorïau arfaethedig y mae galw mawr amdano yn yr ardal.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r gwaith ar Ddatrysiad Cludiant Integredig Ardal Glannau Dyfrdwy a’i gysylltiadau â chynlluniau ehangach Metro’r Gogledd-ddwyrain gan Lywodraeth Cymru.