Mater - cyfarfodydd

Code of Corporate Governance

Cyfarfod: 24/01/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 47)

47 Cod Llywodraethu Corfforaethol pdf icon PDF 113 KB

Cadarnhau’r adolygiad o'r Cod Llywodraethu Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol adroddiad ar y Cod Llywodraethu Corfforaethol wedi’i ddiweddaru i geisio cymeradwyaeth i’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys diagram yn dangos sut roedd y Cod yn gysylltiedig â Chynllun y Cyngor a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Er y gwnaed newidiadau sylweddol i’r Cod yn ystod y flwyddyn flaenorol i ddilyn canllawiau cenedlaethol diwygiedig, roedd y diweddariad cyfredol yn berthnasol i feysydd penodol.

 

Soniodd Sally Ellis ynghylch proffesiynoldeb y ddogfen a gofynnodd a oedd y digwyddiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi arwain at ddysgu am broblemau oedd yn unol â’r Côd. Cyfeiriodd y Swyddog Gweithredol at feysydd newydd fel cyflwyno Strategaeth Buddiannau Cymunedol a datblygu gwaith Adnoddau Dynol ar reoli straen. Esboniodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog er nad oedd y Cod yn cymell arfer, roedd y gwaith o sgorio holiaduron hunanasesu yn darparu dysg ar gyfer datblygiad i’r dyfodol. Roedd y broses hon yn mynd rhagddi i alluogi ar gyfer cyflwyno’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft i’r Pwyllgor yn nes ymlaen.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Johnson am gyfleoedd i Aelodau gymryd rhan ar y Gweithgor Llywodraethu Corfforaethol. Esboniodd y Prif Weithredwr natur dechnegol y gwaith hwn wrth wirio cydymffurfiaeth â’r fframwaith yr oedd angen i’r Pwyllgor ei gymeradwyo. Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth am baratoadau ar gyfer y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac awgrymodd fod swyddogion yn trafod sut orau i gyflwyno’r ddogfen gan mai dyma’r tro cyntaf y byddai aelodaeth o’r Pwyllgor hwn yn ei hystyried.

 

Rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol wybod y byddai holiaduron hunanasesu’n cael eu dosbarthu’n fuan er mwyn galluogi ar gyfer adrodd y canlyniadau i’r cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Cod Llywodraethu Corfforaethol wedi’i ddiweddaru i’w fabwysiadu fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.