Mater - cyfarfodydd

Wales Audit Office (WAO) Audit Plan 2018

Cyfarfod: 21/03/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 57)

57 Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru 2018 pdf icon PDF 79 KB

Mae Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n archwiliwr allanol y Cyngor, wedi paratoi cynnal archwiliad ar gyfer 2018 i’r Cyngor a’r Cronfa Bensiynau Clwyd, sydd yn gosod eu gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ynghyd ag amserlenni, costau a’r timau archwilio sydd yn gyfrifol am gyflawni’r gwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Richard Harries Gynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) 2018 a oedd yn nodi’r trefniadau a’r cyfrifoldebau ar gyfer gwaith archwilio arfaethedig i’r Cyngor a Chronfa Bensiynau Clwyd.

 

Wrth grynhoi pwyntiau allweddol Cynllun y Cyngor, cyfeiriodd at y drafodaeth gadarnhaol rhwng swyddogion y Cyngor a SAC ar y broses gyfrifon, gan gynnwys paratoadau i fodloni terfynau amser statudol cynt.  Roedd y risgiau archwilio ariannol allweddol a nodwyd ar gam cynllunio'r archwiliad yn gyffredinol yn bennaf, ag ond ychydig o risgiau penodol i'r Cyngor.  Roedd gwaith archwilio perfformiad yn cynnwys cydbwysedd rhwng gwaith cenedlaethol ar draws Cymru a gwaith perfformio lleol.  Roedd gostyngiad bach yn y ffi a amcangyfrifwyd ar gyfer gwaith archwilio’r cyfrifon yn adlewyrchu’r gwelliannau a wnaed i'r broses.  Roedd gostyngiad yn y ffi am waith ardystio grantiau o ganlyniad i drefniadau symleiddio a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, a fyddai'n arwain at ostyngiad sylweddol o ran ardystio hawliadau am grantiau yn y modd arferol.

 

Croesawodd y Prif Weithredwr adborth cadarnhaol ar archwiliad ariannol cyfrifon 2016/17 ac, yn enwedig, cydnabyddiaeth i rôl y Gr?p Llywodraethu Cyfrifon.  Dywedodd y gallai newidiadau i driniaeth gyfrifeg Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, pan fyddai’n dod yn weithredol yn 2019, arwain at waith ychwanegol am gyfnod dros dro.  Er bod y farn archwilio ar gadernid systemau wedi’i chydnabod, roedd cynaliadwyedd sefyllfa’r gyllideb yn fater arall.  Byddai newidiadau posib’ i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn gofyn am gytundeb ar y cyd ar ddefnyddio unrhyw adnoddau a fyddai'n cael eu rhyddhau gan SAC yn y ffordd orau.

 

Ar y Cynllun ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd, dywedodd Mr Harries nad oedd nifer o risgiau'r archwiliad ariannol yn benodol i Sir y Fflint, gan gynnwys newidiadau rheoleiddio, a oedd yn golygu na fyddai cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd yn cael ei chynnwys yn rhan o Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor mwyach.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod trafodaethau ar fynd i gytuno ar rôl Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd wrth gymeradwyo ei gyfrifon.  Er y gallai’r Pwyllgor Archwilio barhau i arolygu, byddai’n cadw’r cyfrifoldeb dros gymeradwyo’r cyfrifon craidd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru.