Mater - cyfarfodydd

Annual Review of Appraisals

Cyfarfod: 18/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 60)

60 Adolygiad Blynyddol o Arfarniadau pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Darparu canlyniadau’r Adolygiad Blynyddol o Arfarniadau i’r pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Uwch-Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad yn dangos dadansoddiad manwl o lefelau cwblhau gwerthusiadau ar draws pob portffolio.

 

Nodwyd pwysigrwydd gwerthusiadau mewn gwella polisi perfformiad a chyfarfodydd corfforaethol. Bu cydnabod y dylai gweithwyr cymwys dderbyn gwerthusiadau ystyrlon a rheolaidd. Yn dilyn adolygiad lle cytunwyd ar nifer o eithriadau, roedd adolygiad targed blynyddol fwy heriol o gwblhau 100% o werthusiadau ar gyfer gweithwyr cymwys. Rhannwyd dadansoddiad o’r cynnydd gyda gwerthusiadau o fewn pob portffolio, a oedd yn amcangyfrif bod disgwyl i 77% gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Mynegodd y Prif Weithredwr ei fod wedi siomi gyda’r cynnydd anghyson wrth gwblhau gwerthusiadau ar draws portffolios. Roedd yn annog gwneud gwelliannau, ac oherwydd hynny y byddai adroddiad blynyddol ar werthusiadau yn cael ei lunio yn y dyfodol. Roedd y dirywiad yng nghanran y gwerthusiadau a gwblhawyd rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Rhagfyr 2017 yn rhannol oherwydd newid sylweddol a pharhaus ar draws y gweithlu, yn cynnwys yr effaith ar drosglwyddiadau y Model Cyflawni Amgen.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ei sylwadau ar lithriant y cynnydd a cadarnhaodd y swyddogion bod y gwerthusiadau sydd heb eu gwneud eto wedi cael eu trefnu. Nododd dadansoddiad y ffigyrau ar draws y gwasanaethau, bod rheiny sydd wedi eu dal ar gyfer ‘Newid Sefydliadau 2' yn adlewyrchu nifer isel yn y portffolio hwnnw.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd McGuill, trafododd yr Uwch-Reolwr y datrysiadau TGCh sy’n cael eu harchwilio i gefnogi gyriant gwell i gofnodi ac adnabod patrymau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones am y gwahaniaeth rhwng cyrff cyhoeddus eraill i sefydlu cysylltiadau rhwng perfformiad gweithwyr a gofnodwyd drwy’r broses gwerthuso a thaliadau o gynyddrannau blynyddol.  Cytunwyd y byddai Swyddogion yn edrych i mewn i hyn ac adrodd yn ôl os yw gallai hyn ei weithredu yn Sir y Fflint.

 

Ymatebodd yr Uwch-Reolwr i sylwadau y Cynghorydd Johnson ar yr amser paratoi sydd ei angen ar reolwyr i gynnal gwerthusiadau.  Mewn ymateb i sylwadau pellach, fe gytunodd i ddarparu gwybodaeth bellach ar gwmpas rheolaeth rheolwyr.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Woolley ar bwysigrwydd cyswllt rheolaidd rhwng rheolwyr a gweithwyr i annog teimlad o berthyn, yn enwedig i'r rheiny sy'n gweithio o bell. Siaradodd y Prif Weithredwr am y cyfrifoldebau a'r disgwyliadau sydd ar reolwyr atebol mewn rheoli perfformiad eu timau. Cytunodd y Cynghorydd Mullin gyda hyn.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Hughes ar godi proffil y gwerthusiadau, awgrymodd y Prif Weithredwr bod y Pwyllgor yn gohirio unrhyw benderfyniadau nes bydd adroddiad ar y sefyllfa diwedd blwyddyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wneir yn erbyn y targed a osodwyd ar gyfer cwblhau gwerthusiadau portffolios a'r Cyngor yn ei chyfanrwydd;

 

 (b)      Bod y swyddogion yn ymchwilio i unrhyw gysylltiadau rhwng perfformiad gweithwyr, a gofnodwyd drwy’r broses gwerthuso a thâl mewn cynyddrannau blynyddol o fewn graddau mewn Cynghorau eraill ac o fewn Sector Cyhoeddus Cymru;

 

 (c)      Bod swyddogion yn ystyried os yw cyflwyno'r fath gynllun yn ymarferol yn Sir y Fflint ac yn adrodd yn ôl mewn cyfarfod yn y dyfodol;  ...  view the full Cofnodion text for item 60