Mater - cyfarfodydd

Review of Grass Cutting Policy

Cyfarfod: 16/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 57)

57 Adolygiad o’r Polisi Torri Gwair pdf icon PDF 84 KB

Hysbysu’r Pwyllgor Craffu o’r Polisi Torri Gwair diwygiedig newydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor am y Polisi Torri Gwair a adolygwyd.  Gwahoddodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i gyflwyno’r adroddiad.    

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndirol ac eglurodd bod yr adroddiad yn rhoi manylion y safonau a ddilynwyd ym mhob lleoliad a’r dewis darparu gwasanaeth a ffefrir ym mhob achos.  Roedd yr adroddiad yn manylu’r safonau torri gwair ar y priffyrdd yn benodol ac yn dangos cydymffurfiaeth y Cyngor gyda’r Cod Ymarfer Priffyrdd diweddaraf a ryddhawyd ym Mawrth 2017.  Dywedodd y Prif Swyddog am y prif newidiadau i’r polisi presennol fel y manylwyd yn yr adroddiad.    

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y Polisi diwygiedig oedd ynghlwm â’r adroddiad a dywedodd nad oedd yn nodi’r hyn oedd wedi’i dynnu allan o’r adroddiad gwreiddiol ac felly nad oedd yn bosibl gweld pa newidiadau a wnaed i’r polisi diwygiedig.  Soniodd y Cynghorydd Jones am bwysigrwydd casglu sbwriel, yn arbennig cyn y toriad cyntaf. 

 

Ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd gan Aelodau ynghylch gweld ar briffyrdd, mynedfeydd, ymyl glaswellt a sbwriel.   Mewn ymateb i’r pryderon gan y Cynghorydd Colin Legg yngl?n â Gingroen, eglurodd y Prif Swyddog y gweithdrefnau ar gyfer rheoli twf a gwaredu Gingroen.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo Polisi Torri Gwair diwygiedig y Cyngor.