Mater - cyfarfodydd

Social Services Revenue Budget 2017/18

Cyfarfod: 25/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 44)

44 Cyllideb Refeniw Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 pdf icon PDF 111 KB

Darparu’r cyfle i'r Aelodau adolygu a chraffu ar amrywiaethau allweddol mewn gwariant refeniw

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad  i adolygu a chraffu ar amrywiadau allweddol mewn gwariant refeniw. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn egluro sefyllfa bresennol y gyllideb, y dylanwadau mewn perthynas â gorwariant yn ôl maes gwasanaeth, a’r camau a gynlluniwyd i reoli’r gorwariant trwy’r posibilrwydd o newid y gyllideb i gwrdd â’r pwysau penodol ar y gwasanaeth a mesurau eraill.  Rhoddodd y Prif Swyddog drosolwg o’r gwaith monitro ariannol o fewn tri maes canlynol gwasanaethau oedolion, fel y manylir yn yr adroddiad.

 

            Iechyd Meddwl/lleoliadau gofal preswyl

 

                        Holodd y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n â chost lleoliadau iechyd meddwl a’r ffigyrau o fewn rhan 1.05 o’r adroddiad. Eglurodd Swyddogion y byddai cost lleoliadau iechyd meddwl yn amrywio yn dibynnu ar lefel y cymorth oedd ei angen ac roedd yn cynnwys ystod o leoliadau, rhai tymor byr a thymor hir. Cyfeiriodd Swyddogion at lwyddiant adsefydlu unigolion, oedd yn arwain at gostau is ar gyfer pecynnau. Eglurodd Swyddogion hefyd y gallai lleoliadau oedd yn cael eu hariannu ar y cyd â’r gwasanaeth iechyd fod yn gymhleth. Roedd gwaith wedi’i wneud ar fodel adfer i gefnogi unigolion i gael annibyniaeth lai cyfyngedig ac wedi’i oruchwylio. Ailadroddodd Rheolwr Gwasanaeth, Anableddau, lwyddiant gweithio gyda phobl i’w galluogi i wneud cynnydd. Dywedodd y Prif Swyddog fod y gyllideb yn annigonol i gwrdd â gofynion presennol y Gwasanaeth ac er mwyn mynd i’r afael â’r amrywiadau  yn y gyllideb iechyd meddwl roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i newid y gyllideb. Ychwanegodd  y gallai’r gofynion cynyddol ar y gwasanaeth ac anghenion cymhleth un lleoliad gael effaith sylweddol ar y gyllideb.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â sefyllfaoedd argyfwng a ph’un ai a oedd Iechyd yn cymryd perchnogaeth, cadarnhaodd Uwch Swyddog Gwasanaethau Integredig a Swyddog Arweiniol Oedolion, yn ôl yr adborth, fod Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd wedi gweithredu cyn gyflymed â phosibl.   

 

                        Cyfeiriodd y Prif Swyddog at feysydd tanwariant cyfatebol a dywedodd y byddai’r adran yn ceisio cysoni’r mater hwn.

 

            Mynegodd y Cynghorydd  Carol Ellis ei phryderon yngl?n ag arbedion pellach a nodwyd yn y gyllideb, £0.450m yng Ngham 1 a 0.982 yng Ngham 2. 

 

Cydnabu’r Pwyllgor fod oblygiadau pwysau ar Iechyd hefyd yn ffactor pwysig, gyda lleoliadau’n cael eu hariannu ar y cyd rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd. Hefyd roedd cynnydd yn y niferoedd oedd yn gymwys i gael cefnogaeth o ganlyniad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis y gallai’r lleoliadau Iechyd Meddwl/gofal preswyl roi’r Cyngor mewn sefyllfa debyg i’r un yr oedd yn ei hwynebu ychydig flynyddoedd yn ôl gyda Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir.

 

Derbyniodd y Pwyllgor sefyllfa’r gyllideb o ganlyniad i’r esboniadau uchod.

 

            Gwasanaethau Adnoddau a Rheoleiddio

 

                        Gwnaeth y Cynghorydd Dave Mackie sylw am orwariant y credai nad oedd yn bwysig a dywedodd fod cynnydd yn nifer y bobl oedd yn gymwys i gael cefnogaeth yn sgil Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru.  Hefyd gwnaeth sylw am yr oedi o ran trosglwyddo’r gwasanaeth cyfleoedd dydd a  ...  view the full Cofnodion text for item 44