Mater - cyfarfodydd

Welsh Government’s (WG) 21st Century Schools Programme and Education Programme Band B and Mutual Investment Model (MIM)

Cyfarfod: 18/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 36)

36 Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru (LlC) a Rhaglen Addysg Band B a'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn amlinellu'r prosiectau sy'n cael eu cynnwys o               fewn cyflwyniad Cynllun Trefniadaeth Ysgolion i Lywodraeth                                Cymru ar gyfer y rhaglen Band B arfaethedig ac yn darparu                                   gwybodaeth bellach ar y Model Buddsoddi Cydfuddiannol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad sydd yn amlinellu prosiectau sydd wedi’u cynnwys o fewn cyflwyniad Cynllun Amlinellol Strategol (CAS) y Cyngor i Lywodraeth Cymru (LlC).  Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r egwyddorion a ddefnyddiwyd a'r rhagdybiaethau a wnaed i ddarparu rhaglen sy’n cael yr effaith lleiaf posib ar gyllidebau refeniw’r dyfodol a gwybodaeth am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC).

 

            Cynghorodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynllun Trefniadaeth Ysgolion eto i gael ei gymeradwyo gan Cabinet.  Eglurodd bod LlC wedi gofyn am flaenoriaeth i'r holl raglenni, er o ystyried y byddai’r rhaglen gymhleth o gwmpas am gyfnod o 5/6 mlynedd byddai angen bod yn hyblyg o ran blaenoriaethu gyda'r Bwrdd Rhaglen Addysg yn parhau i adolygu'r rhaglen.  

 

            Mewn ymateb i gwestiynau am yr MBC, eglurodd yr Uwch Reolwr Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion mai dyma ffurf newydd LlC o Bartneriaeth Cyhoeddus neu Fenter Cyllid Preifat (MCP). Trwy’r gwasanaeth hwn byddai’r Cyngor yn derbyn cyfradd ymyrraeth o 75% o gyllid gan Lywodraeth Cymru gyda 25% o gyllid gan y Cyngor dros gyfnod o 25 mlynedd.  Byddai’r cyllid gan LlC yn cael ei dderbyn trwy grant penodol.  

 

            Mewn ymateb i’r sylwadau ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg, dywedodd y Prif Swyddog trwy'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) bod y Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu nifer y disgyblion sy’n cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg i helpu Llywodraeth Cymru (LlC) i gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

 

            Mynegodd y Cynghorydd Tudor Jones ei gefnogaeth i ysgolion gwledig a ddylai yn ei farn ef gael eu cynnal yn weithgar. Dywedodd hefyd am yr angen i ddatblygu ffederasiwn yn weithgar a chynnig bod unrhyw gyfeiriad at gau ysgol wledig yn cael ei dynnu allan o'r rhaglen.  Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom.  O'i roi i bleidlais, gwrthodwyd y cynnig.

 

            Cwestiynodd Mrs. Rebecca Stark os y dylid ystyried yr adroddiad mewn fforwm cyhoeddus a mynegodd ei phryderon am yr effaith y byddai cynigion o’r fath yn ei gael ar leoliadau ysgol. Ymateb y Prif Swyddog oedd bod yr holl ysgolion wedi cael eu briffio gyda thrafodaethau yn cael eu cynnal â’r holl Benaethiaid ysgol yn unigol ar y rhaglen ac eglurwyd mai cyfres o gynigion dros dro oedden nhw ar y cyfnod hwn.  

 

            Gofynnodd Mr. David Hytch am wybodaeth ar y tir yn Ysgol Maes Edwin ac Ysgol Llanfynydd ar ôl eu cau.  Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion bod y dewisiadau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer tir yn Ysgol Maes Edwin a bod y tir yn Ysgol Llanfynydd wedi cael ei werthu. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod sylwadau'r Pwyllgor yn cael eu hadrodd i'r Cabinet ar ddydd Mawrth 23 Ionawr 2018.