Mater - cyfarfodydd

Flintshire Street Markets Review

Cyfarfod: 20/03/2018 - Cabinet (eitem 146)

146 Adolygiad Marchnadoedd Stryd Sir y Fflint pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Diweddaru ar y broses adolygu marchnadoedd ac argymell dewisiadau ar gyfer dyfodol y marchnadoedd yn Sir y Fflint.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler adroddiad Adolygiad o Farchnadoedd Stryd Sir y Fflint a grynhodd ganlyniadau adolygiad diweddar ar y marchnadoedd stryd llai o faint yn Sir y Fflint a’r camau nesaf a argymhellir.

 

            Amlinellwyd canfyddiadau a chasgliadau’r adolygiad yn yr adroddiad, gyda chynigion i gau marchnad stryd y Fflint, trosglwyddo gweithrediad marchnad stryd Cei Connah i’r Cyngor Tref a pharhau i weithredu marchnad stryd Treffynnon dros dro wrth i drafodaethau gyda Chyngor Tref Treffynnon barhau ar y dewisiadau arbed costau i’r dyfodol.

 

            Esboniodd y Cynghorydd Butler fod marchnadoedd stryd ar draws y Deyrnas Unedig wedi dirywio o ran eu graddfa a’u bywiogrwydd a oedd yn sgil cystadleuaeth gan gadwyni adwerthu cenedlaethol mawrion, archfarchnadoedd a siopa ar-lein.

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) mai mwyafrif costau gweithredu marchnadoedd stryd oedd costau staffio. Amlinellwyd yn yr adroddiad yr incwm a grëwyd gan bob marchnad o gymharu â’u costau rhedeg yn ystod 2016/17. O’i gymeradwyo, byddai’r diffyg gweithredu i farchnadoedd yn gostwng gan £21,000 y flwyddyn.

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Bithell sylwadau ar farchnad stryd yr Wyddgrug a oedd yn parhau i gyfrannu at fywiogrwydd economaidd a chymdeithasol y dref, ond roedd yn wynebu ambell i straen. Pwysleisiodd bwysigrwydd diogelu’r marchnadoedd oedd yn weddill. Gofynnodd, petai newid i’r ardal i gerddwyr yn Nhreffynnon, ble fyddai’r farchnad wedyn. Atebodd y Prif Swyddog y byddai yn Tower Gardens. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton, cadarnhaodd y byddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn y dyfodol i farchnad stryd Treffynnon yn cael ei adrodd i’r Cabinet. 

 

            Croesawodd y Cynghorydd Shotton benderfyniad Cyngor Tref Cei Connah i gymryd gweithrediad y farchnad stryd.

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)          Bod y Cabinet yn cefnogi cau marchnad stryd y Fflint;

 

(b)          Bod gweithrediad marchnad stryd Cei Connah yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Tref Cei Connah, yn amodol ar gadarnhad gan y Cyngor Tref a chytundeb i’r telerau; a

 

(c)          Bod gweithrediad marchnad stryd Treffynnon yn parhau dros dro, a bod y trafodaethau gyda Chyngor Tref Treffynnon yn parhau ar opsiynau arbed costau i’r dyfodol.