Mater - cyfarfodydd
Communities First
Cyfarfod: 20/02/2018 - Cabinet (eitem 141)
Cymunedau yn Gyntaf
Pwrpas: Diweddaru ar derfyn y rhaglen Cymunedau Yn Gyntaf a threfniadau olyniaeth.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) adroddiad Cymunedau’n Gyntaf oedd yn rhoi manylion o’r broses gyflwyno oedd yn mynd rhagddi.
Byddai Llywodraeth Cymru (LlC) yn gweithredu dwy raglen newydd o 1 Ebrill 2018. Byddai’r gyntaf, y Gronfa Waddol, yn cynnig cyllid graddfa fach i Gyrff Darparu Lleol ac yn eu galluogi i barhau i ddarparu rhai gweithgareddau Cymunedau’n Gyntaf effeithiol am ddwy flynedd arall. Yr ail oedd y Rhaglen Cyflogadwyedd fyddai’n rhoi’r seilwaith reoli i Gyrff Darparu Lleol ar gyfer y rhaglen Communities 4 Work, ac a fyddai’n ariannu mwy o gymorth i bobl ddi-waith mewn ardaloedd difreintiedig fyddai hefyd yn weithredol tan Mawrth 2020.
Nodwyd strwythur arfaethedig ar gyfer darparu’r rhaglenni newydd yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi bod Sir y Fflint wedi rheoli rhaglen bontio Cymunedau’n Gyntaf yn llwyddiannus; a
(b) Cymeradwyo’r strwythur newydd ar gyfer darparu Communities 4 Work a’r rhaglenni cysylltiedig.