Mater - cyfarfodydd

Welsh Government's (WG) 21st Century Schools Programme and Education Programme Band B and Mutual Investment Model (MIM)

Cyfarfod: 23/01/2018 - Cabinet (eitem 113)

113 Rhaglen Ysgolion yr 21G Llywodraeth Cymru, Rhaglen Addysg Band B a Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cymru (MIM) pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Ceisiocymeradwyaeth y Cabinet i gymeradwyo model noddi MIM a chynnal y prosiectau o fewn y rhaglen.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn cyflwyno’r adroddiad, mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ymddiheuriadau am y camgymeriad yn yr atodiad i’r adroddiad, oedd yn nodi mai bwriad y Cyngor oedd uno Ysgol Terrig ac Ysgol Glanrafon ar safle Glanrafon yn Yr Wyddgrug a chau’r ddarpariaeth yn Ysgol Terrig.  Dylai’r adroddiad fod wedi amlinellu’r angen i adolygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardaloedd hynny a cheisio mynd i’r afael â’r lleoedd gwag yn Ysgol Terrig a’r diffyg lleoedd yn Ysgol Glanrafon, sydd ill dau â’u heriau eu hunain.  Diolchodd i Bennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Terrig am dderbyn ymddiheuriad y Cyngor ac am eu cadarnhad eu bod yn dymuno gweithio’n ymarferol â’r Cyngor i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

 

            Trwy’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu nifer y disgyblion sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn helpu Llywodraeth Cymru (LlC) i gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Roedd Band B yn cynnwys cynnig i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Croes Atti.

 

            Amlinellodd yr adroddiad y prosiectau sydd wedi’u cynnwys o fewn cyflwyniad Cynllun Amlinellol Strategol (CAS) y Cyngor i LlC.  Eglurodd yr egwyddorion a ddefnyddiwyd a'r rhagdybiaethau a wnaed i ddarparu rhaglen sy’n cael yr effaith lleiaf posib ar gyllidebau refeniw’r dyfodol.  Darparwyd manylion hefyd am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC).

 

            Darparodd Band B gyfle cyffrous arall i’r Cyngor adeiladu mwy o ysgolion newydd a gwella’r cyfleusterau’n llwyr mewn eraill.  Byddai hyn yn sicrhau bod llawer mwy o ddisgyblion Sir y Fflint yn cael defnydd o’r cyfleusterau gorau posib, fyddai’n gwella ansawdd y dysgu.

 

            Ar gyfer prosiectau traddodiadol, byddai’r cyllid yn cael ei rannu 50:50 rhwng LlC a’r Cyngor.  Fodd bynnag, dan y mecanwaith cyllido MBC newydd, bydd LlC yn cyllido 75% a’r Cyngor yn cyllido 25%.

 

            Y CAS oedd cam cyntaf proses hir o dynnu’r ffrwd gyllido i lawr gan LlC, a dyma oedd datganiad o fwriad y Cyngor.  Bydd pob prosiect unigol yn cael ei ystyried gan y Cabinet.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Thomas am wybodaeth am y broses ymgynghori ar ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, gan geisio sicrwydd am y model MBC.  Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y cafodd y cynigion eu hystyried yn y lle cyntaf gan Fwrdd y Rhaglen Addysg ac Ieuenctid a Bwrdd y Rhaglen Asedau Cyfalaf.  Cyflwynir yr adroddiad a’r argymhellion ger bron y Cabinet heddiw ac, os cânt eu cymeradwyo, bydd ymarfer ymgynghori cyhoeddus manwl yn cychwyn, fel y diffiniwyd yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion.  Ar MBC, eglurodd mai ffurf newydd LlC ar Fenter Cyllid Preifat (MCP) yw hwn, gydag unrhyw brosiectau MBC yn arwain at system addysg ddwy haen o ran ansawdd a dwyster y drefn gynnal a ddefnyddir.  Bu i MBC ystyried a dysgu o faterion blaenorol gyda MCP.  Bydd gwaith yn cael ei wneud â phartneriaid allweddol mewn cymunedau i sicrhau bod cymunedau’n ymwybodol bod addysg cyfrwng Cymraeg yn ddewis iddynt hwy.

           

            Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei bod yn debygol y byddai rhywfaint o le i symud o fewn y cynigion,  ...  view the full Cofnodion text for item 113