Mater - cyfarfodydd

21st Century Schools Programme - Penyffordd Project - Contract Commissioning

Cyfarfod: 23/01/2018 - Cabinet (eitem 121)

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Prosiect Penyffordd – Comisiynu Cytundeb

Pwrpas:        I geisio cymeradwyaeth i gytundebu ar gyfer y prosiect gwella Cyfalaf yn Ysgol Penyffordd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gontractio ar gyfer y prosiect gwella cyfalaf yn Ysgol Penyffordd, a gyllidwyd gan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru Band A.

 

            Mae gan y prosiect gymeradwyaeth Achos Busnes Llawn gan LlC a bydd cymeradwyaeth yn cael ei geisio yn y Pwyllgor Cynllunio ym mis Chwefror 2018. Roedd cost ddangosol y prosiect ychydig yn uwch na’r cwmpas cyllido LlC y cytunwyd arno ar gyfer y rhaglen Band A.

 

            Cafwyd trafodaeth am gost y prosiect, gan gynnwys yr opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor pe bai’r diffyg yn parhau yn y cyllid. Roedd gwybodaeth gan y contractwr am gadarnhad o’r gwir gostau gan ei gadwyn gyflenwi yn dal heb ddod i law, ond mae disgwyl iddo fod yn hysbys erbyn diwedd Ionawr. Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Attridge, cytunwyd i ddiwygio’r argymhelliad trwy dynnu’r geiriau ‘a goddefiannau ariannol a amlinellir o fewn yr adroddiad'.

           

            Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid cysylltu â LlC i geisio cymorth i ddefnyddio unrhyw danwariant mewn prosiectau Band A eraill, gan mai ar faint yn unig y mae methodoleg LlC wedi’i seilio,  a chefnogwyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cefnogi ac yn cymeradwyo’r contract er mwyn galluogi cam adeiladu a darparu’r prosiect gwella cyfalaf i fynd yn ei flaen, yn amodol ar gymeradwyaeth Cynllunio; a

 

(b)       Bod swyddogion yn trafod gyda Llywodraeth Cymru i ddefnyddio unrhyw danwariant mewn prosiectau Band A eraill i helpu gyda’r prosiect hwn.