Mater - cyfarfodydd
SARTH Audit Report
Cyfarfod: 15/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 46)
46 Adroddiad Archwilio SARTH PDF 111 KB
Pwrpas: Rhannu canlyniadau adroddiad archwilio ar reoli’r gofrestr dai a dyrannu eiddo’r cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Audit action updates and comments, eitem 46 PDF 96 KB
- Enc. 2 - SARTH action plan, eitem 46 PDF 63 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth, Cefnogaeth Cwsmeriaid adroddiad am ganlyniad adroddiad archwilio am reolaeth y gofrestr tai a dyrannu eiddo’r Cyngor sy’n codi o gyflwyno’r Un Llwybr Mynediad at Dai.
Nododd yr Archwiliad Mewnol 13 cam gweithredu ac roedd naw ohonynt wedi’u gweithredu’n llawn a dau ohonynt yn gysylltiedig â pholisi rhanbarthol – i gael eu gweithredu erbyn mis Mehefin 2018. Roedd yr adroddiad yn rhoi eglurhad manwl am gynnydd o ran y ddau gam gweithredu sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd o ran cwblhau adolygiadau cyfnodol o fewn amserlenni a chanslo apwyntiadau oherwydd na chafwyd tystiolaeth. Gobeithiwyd y byddai’r camau gweithredu yn darparu sicrwydd i Aelodau am ffyrdd gwell o weithio i wneud defnydd gwell o adnoddau cyfyngedig a chydymffurfio â’r argymhellion.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, eglurwyd bod eiddo yn cael eu dyrannu yn nhrefn dyddiad fel arfer, yn unol â bandio. Roedd nifer fach o resymau pam gellid pasio ymgeiswyr, fel math o eiddo, materion hygyrchedd neu lle roedd angen gosod yn sensitif. Eglurodd y Prif Swyddog fod amrywiaeth o ddatblygiadau TGCh wedi’u hamlygu yn yr adroddiad i gefnogi gweithio awtomataidd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at y cam gweithredu ar amserlenni ar gyfer canslo ceisiadau a dywedwyd wrtho fod y lefel risg gwyrdd (isel) wedi’i bennu gan Archwilio Mewnol gan nad oedd yn bosibl dyrannu eiddo heb y dystiolaeth angenrheidiol.
Cynigiodd y Cadeirydd fân ddiwygiad i’r penderfyniad ac fe’i dderbyniwyd.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl adolygu’r adroddiad, bod gan y Pwyllgor sicrwydd bod pob cam gweithredu risg uchel wedi’u gweithredu’n llawn a bod pob cam gweithredu sy’n weddill hefyd naill ai wedi’u cwblhau neu ar waith.