Mater - cyfarfodydd
School Organisation - Area Review, Brynford and Lixwm
Cyfarfod: 23/01/2018 - Cabinet (eitem 114)
114 Trefniadaeth Ysgolion – Adolygiad Ardal, Brynfordd a Licswm PDF 90 KB
Pwrpas: Darparu ffordd ymlaen ar gyfer trefniadaeth ysgolion cynradd ym Mrynffordd a Licswm.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Letter from Brynford CP Governing Body, eitem 114 PDF 723 KB
- Appendix 2 - Letter from Lixwm CP Governing Body, eitem 114 PDF 79 KB
- Appendix 3 - Anticipated statutory proposal timeline, eitem 114 PDF 43 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad Adolygiad Ardal Trefniadaeth Ysgolion Brynffordd a Licswm, oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed ers y Cabinet ym mis Medi, pan gymeradwywyd seibiant byr i alluogi swyddogion i weithio gyda Chyrff Llywodraethu Ysgolion Cynradd Brynffordd a Licswm. Darparodd yr adroddiad hefyd wybodaeth bellach ac opsiynau i’w hystyried er mwyn dod i benderfyniad ar y ffordd ymlaen yn yr ardal.
Er fod yr adroddiad yn argymell symud ymlaen at ymgynghoriad statudol, pwysleisiodd y Cynghorydd Roberts nad oedd hyn yn golygu cau ysgolion o reidrwydd, a rhoddodd enghreifftiau o ysgolion eraill a symudodd ymlaen at ymgynghoriad statudol ac a oedd wedi ffedereiddio yn hytrach na chau.
Os cafwyd cynigion ar gyfer ffedereiddio oedd yn ymarferol, gallai hyn fod yn opsiwn y byddai’r Cyngor yn ei gefnogi. Byddai barn y gymuned leol yn cael ei cheisio fel rhan o’r broses ymgynghori ffurfiol fel yr amlinellwyd yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion.
Gofynnodd y Cynghorydd Shotton tybed a ellid amlinellu beth oedd yn sbarduno’r cynigion, er budd y galeri cyhoeddus. Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) mai’r ysgolion allai gael eu hadolygu, dan y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion, oedd y rhai hynny â lleoedd gwag a bod gofyn i Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) leihau’r rhain. Mae lleoedd gwag mewn ysgolion yn aneffeithlon o ran cynaliadwyedd ysgolion bychain oherwydd y gost, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o gyni. Pwysleisiodd bwysigrwydd symud y broses ymlaen yn gyflym er mwyn rhoi sicrwydd i’r ysgolion dan sylw o ran y ffordd ymlaen cyn gynted ag y bo modd.
Gwnaeth y Cynghorydd Shotton sylwadau ar nifer y llythyrau a negeseuon e-bost a dderbyniwyd gan y gymuned, oedd yn fuddiol er mwyn gallu rhoi ystyriaeth i bob barn. Pwysleisiodd nad oedd y cynnig i symud ymlaen at ymgynghoriad statudol wedi’i gysylltu mewn unrhyw ffordd â gofyn ar y Cyngor i fantoli cyllideb.
Nododd y Prif Swyddog mai barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg oedd y dylai awdurdodau lleol ystyried pob llwybr sydd ar gael i ysgolion, ac y dylid cefnogi ffedereiddio lle bynnag y bo hynny’n bosib. Byddai unrhyw gynigion pellach i ffedereiddio yn dod i’r amlwg yn ystod y cyfnod ymgynghori ac yn cael eu hystyried.
Atodwyd amserlen ar gyfer y broses i’r adroddiad, ond eglurodd y Prif Swyddog pe byddai cynnig ymarferol ar gyfer ffedereiddio’n dod i law, y gellid symud ymlaen â hwnnw yn gynt os byddai’n bosib. Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn gorffen cyn cychwyn gwyliau haf yr ysgolion.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn dilyn her yn LlC, wedi ysgrifennu at Gyngor Sir y Fflint i ddweud bod y prosesau a ddilynwyd ar drefniadaeth ysgolion yn Sir y Fflint yn gywir ac y gallai’r trigolion roi eu ffydd yn y broses.
PENDERFYNWYD:
Y bydd y Cyngor yn symud ymlaen at ymgynghoriad statudol ar newid trefniadaethol ysgolion, gyda'r cynnig i uno ysgolion cynradd Brynffordd a Licswm i greu un ysgol ardal.