Mater - cyfarfodydd
Review of Car Parking Charges in Council Owned Car Parks
Cyfarfod: 16/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 56)
56 Cyllideb Cam 2: Adolygiad o Gostau Parcio Ceir PDF 130 KB
Derbyn argymhelliad Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ar ffioedd arfaethedig holl feysydd parcio’r Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn gofym am argymhelliad gan y Pwyllgor ar y ffioedd meysydd parcio arfaethedig ym mhob maes parcio sy’n eiddo i’r Cyngor. Rhoddodd wybodaeth gefndirol a dywedodd nad oedd y ffioedd meysydd parcio wedi eu hadolygu ers eu cyflwyno ac nad oedd yr incwm a gynhyrchwyd yn diwallu cost llawn rheoli a gweithredu’r meysydd parcio. Roedd y sefyllfa hon yn groes i bolisi corfforaethol y Cyngor sydd newydd ei fabwysiadu ar gyfer ffioedd a thaliadau, sy'n disgwyl bod swyddogaethau nad ydynt yn orfodol ond y gellir codi tâl amdanynt, yn cael eu rhoi ar sail adennill costau llawn, lle bynnag y bo'n bosibl.
Dywedodd y Prif Swyddog bod y trefniadau ffioedd diwygiedig arfaethedig wedi eu dangos yn Atodiad 1 yr adroddiad. Roedd yna 2 ddewis ar gyfer y ffioedd diwygiedig a gofynnwyd i’r Pwyllgor fynegi pa un o’r dewisiadau a ffefrir. Roedd y ffioedd arfaethedig wedi eu hystyried yn rhesymol a byddent yn parhau’n isel wrth gymharu costau parcio yn Sir y Fflint gyda siroedd eraill yng Nghymru. Eglurodd y Prif Swyddog y byddai adolygiad ac asesiad o effaith pellach yn cael eu cynnal chwe mis ar ôl cyflwyno’r ffioedd newydd ac adroddir yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Hydref 2018.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at y ffioedd arfaethedig ac eglurodd ei farn na ddylid safoni’r ffioedd ar draws pob maes parcio yn Sir y Fflint. Soniodd am y cyfleusterau, siopau a gwasanaethau a ddarparwyd o fewn pob tref a dywedodd bod angen cymryd hyn i ystyriaeth wrth gynnig newidiadau i’r trefniadau ffioedd presennol Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin i’r tariff presennol barhau yn Nhreffynnon. Hefyd eglurodd bod yna ddau faes parcio wedi eu lleoli yn agos at ei gilydd yn Nhreffynnon a gofynnodd i’r rhain gael eu huno o dan yr un enw gyda’r un ffioedd parcio i gynorthwyo trigolion sy’n defnyddio’r cyfleusterau lleol; gan ystyried Canolfan Hamdden Treffynnon fel enghraifft.
Cytunodd y Cynghorwyr Haydn Bateman ac Owen Thomas gyda’r farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Dolphin y dylai ffioedd maes parcio yn Sir y Fflint gael eu safoni.Teimlodd y Cynghorwyr Haydn Bateman a Dave Hughes y dylai ffioedd gael eu safoni yn unol â’r ffioedd presennol yn yr Wyddgrug.
Roedd y Cynghorydd Sean Bibby yn cynnig newid i’r ddau opsiwn ar gyfer meysydd parcio Bwcle, Cei Connah, Treffynnon, Queensferry a Shotton a chynigiodd dariff ychwanegol o 20c ar gyfer y 30 munud cyntaf. Roedd y Cynghorydd Ian Dunbar yn eilio hyn.
Ailbwysleisiodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd pob tref yn darparu’r un cyfleusterau a dywedodd bod parcio am ddim yn cynyddu’r ymwelwyr â chanol y dref gan fod pobl yn gyfarwydd â siopa yn yr ardal honno. Hefyd soniodd am gost darparu a chynnal a chadw meysydd parcio a dywedodd y dylai’r wybodaeth ar wariant ac incwm a dderbyniwyd o bob un o’r meysydd parcio yn Sir y Fflint fod ar gael ar gyfer cymharu ac i bennu lefelau incwm yn y dyfodol. Mynegodd y farn nad oedd rhai ... view the full Cofnodion text for item 56