Mater - cyfarfodydd

Review of Car Parking Charges in Council Owned Car Parks

Cyfarfod: 16/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 56)

56 Cyllideb Cam 2: Adolygiad o Gostau Parcio Ceir pdf icon PDF 130 KB

Derbyn argymhelliad Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ar ffioedd arfaethedig holl feysydd parcio’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn gofym am argymhelliad gan y Pwyllgor ar y ffioedd meysydd parcio arfaethedig ym mhob maes parcio sy’n eiddo i’r Cyngor.    Rhoddodd wybodaeth gefndirol a dywedodd nad oedd y ffioedd meysydd parcio wedi eu hadolygu ers eu cyflwyno ac nad oedd yr incwm a gynhyrchwyd yn diwallu cost llawn rheoli a gweithredu’r meysydd parcio.  Roedd y sefyllfa hon yn groes i bolisi corfforaethol y Cyngor sydd newydd ei fabwysiadu ar gyfer ffioedd a thaliadau, sy'n disgwyl bod swyddogaethau nad ydynt yn orfodol ond y gellir codi tâl amdanynt, yn cael eu rhoi ar sail adennill costau llawn, lle bynnag y bo'n bosibl. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod y trefniadau ffioedd diwygiedig arfaethedig wedi eu dangos yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Roedd yna 2 ddewis ar gyfer y ffioedd diwygiedig a gofynnwyd i’r Pwyllgor fynegi pa un o’r dewisiadau a ffefrir.   Roedd y ffioedd arfaethedig wedi eu hystyried yn rhesymol a byddent yn parhau’n isel wrth gymharu costau parcio yn Sir y Fflint gyda siroedd eraill yng Nghymru.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai adolygiad ac asesiad o effaith pellach yn cael eu cynnal chwe mis ar ôl cyflwyno’r ffioedd newydd ac adroddir yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Hydref 2018. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at y ffioedd arfaethedig ac eglurodd ei farn na ddylid safoni’r ffioedd ar draws pob maes parcio yn Sir y Fflint.    Soniodd am y cyfleusterau, siopau a gwasanaethau a ddarparwyd o fewn pob tref a dywedodd bod angen cymryd hyn i ystyriaeth wrth gynnig newidiadau i’r trefniadau ffioedd presennol   Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin i’r tariff presennol barhau yn Nhreffynnon.  Hefyd eglurodd bod yna ddau faes parcio wedi eu lleoli yn agos at ei gilydd yn Nhreffynnon a gofynnodd i’r rhain gael eu huno o dan yr un enw gyda’r un ffioedd parcio i gynorthwyo trigolion sy’n defnyddio’r cyfleusterau lleol; gan ystyried Canolfan Hamdden Treffynnon fel enghraifft.

 

Cytunodd y Cynghorwyr Haydn Bateman ac Owen Thomas gyda’r farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Dolphin y dylai ffioedd maes parcio yn Sir y Fflint gael eu safoni.Teimlodd y Cynghorwyr Haydn Bateman a Dave Hughes y dylai ffioedd gael eu safoni yn unol â’r ffioedd presennol yn yr Wyddgrug.   

 

Roedd y Cynghorydd Sean Bibby yn cynnig newid i’r ddau opsiwn ar gyfer meysydd parcio Bwcle, Cei Connah, Treffynnon, Queensferry a Shotton a chynigiodd dariff ychwanegol o 20c ar gyfer y 30 munud cyntaf.  Roedd y Cynghorydd Ian Dunbar yn eilio hyn.    

 

Ailbwysleisiodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd pob tref yn darparu’r un cyfleusterau a dywedodd bod parcio am ddim yn cynyddu’r ymwelwyr â chanol y dref gan fod pobl yn gyfarwydd â siopa yn yr ardal honno.  Hefyd soniodd am gost darparu a chynnal a chadw meysydd parcio a dywedodd y dylai’r wybodaeth ar wariant ac incwm a dderbyniwyd o bob un o’r meysydd parcio yn Sir y Fflint fod ar gael ar gyfer cymharu ac i bennu lefelau incwm yn y dyfodol.    Mynegodd y farn nad oedd rhai  ...  view the full Cofnodion text for item 56