Mater - cyfarfodydd
Connah's Quay Swimming Pool - Cambrian Aquatics Mid Year Progress Report 2017/18
Cyfarfod: 18/12/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 38)
Pwll Nofio Cei Connah - Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn Cambrian Aquatics 2017/18
Pwrpas - Bydd y Cambrian Aquatics yn cyflwyno adolygiad cynnydd ganol blwyddyn i alluogi trafodaeth a sylwadau cyn datblygu Cynllun Busnes ar gyfer 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (38/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (38/3)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) adroddiad i alluogi’r Pwyllgor i ystyried cynnydd ar gyfer chwe mis cyntaf 2017/18 ac i wneud sylwadau a fydd yn hysbysu datblygiad y Cynllun Busnes nesaf gan Cambrian Aquatics ar gyfer cyflwyniad ffurfiol i’r Cyngor ddechrau 2018. Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a gwahoddodd Simon Morgan, Cadeirydd Cambrian Aquatics, i gyflwyno adolygiad cynnydd canol blwyddyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylid nodi cynnydd Cambrian Aquatics, datblygiad Cynllun Busnes, a chefnogaeth barhaus i’r Trosglwyddiad Asedau Cymunedol hwn; a
(b) Dylid diolch i Simon Morgan, Cadeirydd Cambrian Aquatics am ei bresenoldeb a’i gyfraniad i’r cyfarfod.