Mater - cyfarfodydd

The Release of Chinese Lanterns from Council Land

Cyfarfod: 19/12/2017 - Cabinet (eitem 111)

111 Gwaharddiad posib o ryddhau “Llusernau Tsieineaidd” o dir Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        Ystyried safle’r Cyngor mewn perthynas ag atal rhyddhau llusernau o dir sy'n eiddo iddynt.

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynghorydd Bithell adroddiad Rhyddhau Llusernau Papur o Dir y Cyngor.

 

            Bu pryder cynyddol gan amrywiaeth eang o fudd-ddeiliaid, fel y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid ac amryw Wasanaethau Tân ac Achub, am effaith bosibl lanterni awyr ar dda byw a’r amgylchedd.  Roedd pryderon penodol yn cynnwys y risgiau i les anifeiliaid drwy lyncu darnau, sbwriel yng nghefn gwlad, y môr ac ar y morlin, risgiau i hedfan ac effeithiau ar wasanaethau achub arfordirol.  Gan fod lanterni awyr yn cynnwys fflam noeth, roedd pryder ychwanegol am y risg tân i adeiladau eiddo a chnydau o lanio afreolus.

 

            Gallai ceisio erlyn parti dan y Deddfau hyn fod yn heriol gan fod trafodaeth ar ba adeg y cafodd y sbwriel ei ollwng mewn gwirionedd a sut gellid ei fonitro a’i orfodi wedi hynny.  Yn ogystal, roedd yr adnoddau gofynnol yn debygol o fod yn sylweddol ac, ar adeg o gyfyngiadau cyllidebol, gallent fod yn waharddol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn cyflwyno gwaharddiad gwirfoddol ar ryddhau llusernau awyr o dir sy’n berchen i’r Cyngor neu a reolir gan y Cyngor; a bod ymarfer cyfathrebu yn cael ei gynnal i sicrhau bod defnyddwyr a sefydliadau elusennol yn ymwybodol o’r risgiau sy’n gysylltiedig â llusernau awyr a’r ffaith na ddylent gael eu rhyddhau o dir sy’n berchen i’r Cyngor neu a reolir gan y Cyngor.