Mater - cyfarfodydd

Betsi Cadwaladr University Health Board

Cyfarfod: 13/12/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 37)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Derbyn diweddariad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar Wasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol ac Ysbyty'r Wyddgrug. 

 

Cofnodion:

Croesawodd a chyflwynodd y Cadeirydd Mr RobSmith, Cyfarwyddwr Rhanbarth y Dwyrain, Nikki Palin, Arweinydd Tîm RN, a Dr  Gareth Bowdler, Cyfarwyddwr Meddygol Rhanbarth y Dwyrain, i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu wybodaeth gefndirol a gwahoddodd gynrychiolwyr BIPBC i roi diweddariad ar Ofal Sylfaenol  a Gwasanaethau Cymunedol.  

 

Rhoddodd Mr Rob Smith a Nikki Palin gyflwyniad ar y cyd ar Dîm Adnoddau Cymunedol Rhanbarth y Dwyrain – cefnogi cleifion yn agosach at adref. Eglurodd Mr. Smith mai cleifion a’u teuluoedd sydd yw canolbwynt yr holl gynlluniau a datblygiadau a bod BIPBC yn gweithio ar y cyd â’r Awdurdod er mwyn darparu triniaethau a gofal i bobl yn eu cartrefi. Roedd prif bwyntiau’r cyflwyniad fel a ganlyn:

 

·         cyflwyniad a chefndir – lle oeddem ni

·         y weledigaeth – Tîm Adnoddau Cymunedol Rhanbarth y Dwyrain

·         gwaith prosiect – Tîm Adnoddau Cymunedol

·         gwaith hyd yma

·         y camau nesaf 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Smith a Ms Palin am eu cyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Healey â phwy fyddai trigolion yn gysylltu am help yngl?n â materion gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gofal Cymdeithasol i Blant, amddiffyn plant, a iechyd meddwl. Eglurodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig fod un rhif cyswllt ar gyfer yr holl wasanaethau ac roedd y Tîm Dyletswydd Argyfwng yn darparu gwasanaeth y tu allan i oriau. Cytunodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu i ddarparu gwybodaeth am y rhif cyswllt ar gyfer pob gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ian Smith yngl?n â thriniaeth chwistrellu clustiau, dywedodd  Dr Gareth Bowdler fod y broses wedi newid a bod cleifion bellach yn cael eu hasesu gan y tîm gwasanaethu chwistrellu clustiau ac nad oeddynt o reidrwydd yn cael eu hatgyfeirio at feddyg ar gyfer y driniaeth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill sut mae gwasanaeth y tu allan i oriau y meddyg teulu, a allai arwain at glaf yn mynd i’r ysbyty, yn cysylltu â gwasanaethau pwynt mynediad sengl.  Eglurodd Mr. Smith mai’r bwriad oedd cydweithio’n agosach gyda’r gwasanaethau brys, fodd bynnag roedd yn cydnabod fod angen gwaith pellach ar hyn. 

 

Dywedodd Dr. Bowdler mai’r cam gweithredu cywir oedd galw gwasanaeth y tu allan i oriau y meddyg teulu a chysylltu â’r gwasanaethau Adnoddau Cymunedol. Dywedodd y Cynghorydd McGuill fod hyn yn anodd gan fod gwasanaeth y tu allan i oriau meddygon teulu yn cael ei weithredu gan feddygon teulu gwahanol i feddygon teulu BIPBC.

 

Eglurodd Mr. Smith fod y rhan helaethaf o achosion atal salwch ac atgyfeiriadau gwasanaeth ambiwlans yn digwydd yn ystod y dydd. Dywedodd fod y gwasanaeth wedi gwella pan oedd ar y rhan fwyaf o bobl angen y gwasanaeth, sef yn ystod y dydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod angen mwy o sicrwydd fod gan feddygon teulu gyswllt cryf â’r gwasanaeth y tu allan i oriau er mwyn lleihau’r pwysau ar adrannau brys ysbytai yn hytrach na galw’r ambiwlans allan a defnyddio gwasanaethau y mae’n bosib nad oes eu hangen.

 

Eglurodd Mr. fod y rhan fwyaf o bobl yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 37