Mater - cyfarfodydd

Greenfield Valley Museum Heritage Park visit and presentation

Cyfarfod: 17/04/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 69)

69 Ymweliad a chyflwyniad ar Barc Treftadaeth ac Amgueddfa Dyffryn Maes Glas pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar ddatblygiadau yn Nhreftadaeth Dyffryn Maes Glas.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) ddiweddariad ar gynnydd o ran mynd i’r afael ag argymhellion adroddiad yr Archwiliad Mewnol ar lywodraethu, ariannu a threfniadau gweithredu ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.

 

Traddododd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol gyflwyniad ar y canlynol:

 

·         Cefndir

·         Cwmpas yr Archwiliad

·         Archwiliad – meysydd a reolwyd yn dda

·         Archwiliad – meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach

·         Prif newidiadau 2017/18

·         Amcanion y Cynllun Busnes

 

Yn ystod y cyflwyniad, eglurodd y Rheolwr nifer o ddatblygiadau allweddol megis penodi swyddog gweinyddol/ariannol i gynorthwyo gwelliannau i systemau’r swyddfa gefn a symud i fodel mwy cyfunol dan y portffolio Cynllunio a’r Amgylchedd. Fel rhan o’r newidiadau strwythurol, roedd y ddau Arweinydd Tîm yn chwarae rôl allweddol yng nghyhoeddi’r gweithgareddau yn y wlad, gwella  pryd a gwedd y safle a chynyddu ymgysylltu cyhoeddus, yn arbennig trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae trefniadau llywodraethu wedi eu hatgyfnerthu trwy recriwtio pedwar Ymddiriedolwr newydd a chadw rhai o’r Ymddiriedolwyr blaenorol i roi cymorth yn ystod y cyfnod o drosglwyddo. Byddai’r cynllun busnes tair blynedd yn sail i’r cytundeb rheoli diwygiedig ac yn sicrhau yr atebid anghenion y bartneriaeth. Dywedodd y Rheolwr y cydnabuwyd yr heriau blaenorol a dywedodd fod perthynas weithio cadarnhaol bellach rhwng y tîm a’r Ymddiriedolwyr i gydweithio tuag at yr un amcanion.

 

Fel Aelod Cabinet, mynegodd y Cynghorydd Carolyn Thomas ei gwerthfawrogiad am y gwaith a waned a’r cynlluniau i godi proffil y safle yn y dyfodol. 

 

Bu i’r Cynghorydd Shotton ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad a phwysleisiodd ar yr angen i godi cyhoeddusrwydd y parc, yn arbennig gerbron twristiaid sy’n ymweld o dramor. Eglurwyd bod marchnata yn elfen bwysig o waith y tîm gan ddefnyddio cysylltiadau presennol a chreu rhai newydd er mwyn datblygu strategaeth hirdymor, a bod y wefan newydd ar fin mynd yn fyw.

 

Trafododd y Cynghorydd Chris Dolphin am gymaint o werthfawrogiad a chefnogaeth sydd i’r parc a dywedodd mai yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig y profwyd trafferthion. Mynegodd bryderon ynghylch canfyddiadau’r adroddiad archwilio a chwestiynodd y camau gweithredu sy’n mynd rhagddynt ynghylch y trefniadau llywodraethu; dywedodd y dylai cofnodion Bwrdd yr Ymddiriedolwyr fod ar gael i’w gweld. Bu iddo drafod y dyddiad terfyn ar gyfer gweithredu a mynegi ei siom ynghylch y diffyg manylder yn yr adroddiad  eglurhaol yr oedd yn gobeithio yr eid i’r afael ag o yn y diweddariad nesaf. Cyfeiriodd at yr effaith negyddol ar y gymuned yn sgil y penderfyniad blaenorol i dynnu’r pegiau pysgota o’r pwll yn y safle i atal pysgota.

Eglurodd y Prif Swyddog mai erbyn mis Medi 2017 yr oedd yn rhaid i’r Ymddiriedolaeth gyflwyno ymrwymiad i dderbyn argymhellion adroddiad yr archwiliad, a oedd yn yr agenda at ddibenion didwylledd. Byddai’r Archwiliad Mewnol yn monitro’r camau gweithredu ac yn adrodd yn ôl wrth y Pwyllgor Archwilio ym mis Mehefin 2018. Roedd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cynnwys rhai aelodau newydd â sgiliau pwysig i gynorthwyo datblygiad a chynaliadwyedd y safle. Er mwyn cynnal elfen o barhad, cytunodd rhai cyn-aelodau i aros, yn cynnwys  ...  view the full Cofnodion text for item 69