Mater - cyfarfodydd
Financial Forecast and Budget Position
Cyfarfod: 19/12/2017 - Cabinet (eitem 106)
Rhagolygon ariannol a sefyllfa'r gyllideb
Pwrpas: I ddarparu diweddariad llafr ar y rhagolwg ariannol a'r sefyllfa cyllideb ar gyfer 2018/19.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr eitem ar lafar am y Rhagolwg Ariannol a Sefyllfa’r Gyllideb. Roedd Cam Un y gyllideb wedi’i gwblhau ac roedd Cam Dau wedi cael ei drafod yn y Cyngor Sir yr wythnos flaenorol gyda’r canlyniadau a ganlyn:
· Byddai amrediad Treth y Cyngor rhwng 3% a 5%;
· Byddai argymhellion gan y Cabinet yn cael eu cyflwyno, sef;
(a) Bod opsiynau’r Gyllideb Cam Dau yn yr adroddiad Craffu ac argymhellion y Cabinet a nodir isod yn cael eu cyflwyno;
(i) Bod adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei gyflwyno gydag argymhelliad i’r Cyngor ar Gam 2 strategaeth y gyllideb;
(ii) Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi; a
(iii) Bod y Cabinet yn cael a derbyn yn llawn y 6 argymhelliad drafft gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (rhestrir isod). Gwnaeth y Cabinet nodi ac argymell Cam 2 y gyllideb i'r Cyngor Sir gyda’r amod y byddai’r cynigion penodol ar gyllidebau ysgol a thaliadau parcio ceir yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol ym mis Ionawr ar gyfer adolygiad llawn, er mwyn iddynt adrodd yn ôl cyn unrhyw gytundeb terfynol ar y ddau faes hyn.
Argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol:
1. Ar ôl ystyried opsiynau’r gyllideb Cam 2, nodi’r adroddiad a’r cynigion;
2. Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi; a
3. Bod y llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a thros Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a’r Datganiadau Cydnerthedd yn cael eu dosbarthu i bob Aelod;
4. Bod manylion llawn yr asesiadau o’r risgiau, effeithiau a chanlyniadau o’r holl gynigion y gyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr;
5. Bod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn cael eu cynnull ym mis Ionawr i adolygu’r taliadau parcio ceir a chynigion y gyllideb ar gyfer ysgolion fel ei gilydd yn fanwl gan gynnwys risgiau a chanlyniadau’r cynigion, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud; a
6. Bod adroddiad yn adolygu’r broses ar gyfer proses gosod y gyllideb flynyddol yn cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018.
(2) Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi; a
(b) Bod camau sy’n weddill o broses y gyllideb a’r terfynau amser yn cael eu nodi.
Byddai trafodaeth yn cael ei chynnal gyda swyddogion Llywodraeth Cymru (LlC) am y sefyllfa hon. Rhoddodd sylwadau ar £20m posibl ychwanegol i Awdurdodau Lleol ar gyfer 2018/19, gyda £40m posibl yn 2019/20, ar sail y fformiwla, byddai hyn yn £950,000 ac £1.7m ar gyfer 2018/19 a 2019/20 fel ei gilydd ar gyfer Sir y Fflint. Rhoddodd sylwadau hefyd ar dri chais penodol LlC, sef: (1) Cap Ffioedd Gofal Cartref; (2) Cronfa Gofal Canolraddol; a (3) Ardoll Treth Prentisiaid. Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod lobïo yn parhau ar y tri ... view the full Cofnodion text for item 106