Mater - cyfarfodydd

Flintshire Supporting People Programme Grant, Local Spend Plan and Regional Strategic Plan

Cyfarfod: 14/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 54)

54 Grant Rhaglen Cefnogi Pobl Sir y Fflint, Cynllun Gwariant Lleol a'r Cynllun Strategol Rhanbarthol pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Ystyried y Cynllun Comisiynu arfaethedig ar gyfer 2018/19

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Fe gyflwynodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid adroddiad i gyflwyno Cynllun Gwario Lleol y Grant Rhaglen Cefnogi Pobl ar gyfer 2018/19 a oedd wedi’i ddatblygu i alinio â blaenoriaethau wedi’u nodi yn y Cynllun Strategol Rhanbarthol Cefnogi Pobl Gogledd Cymru.

 

            Darparodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid wybodaeth gefndirol ac fe gynghorodd bod yr adroddiad wedi darparu golwg cyffredinol o’r cynnydd a wnaed gan Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru ar draws yr ardaloedd o flaenoriaeth a amlinellwyd yng nghynllun y llynedd a golwg cyffredinol o’r risgiau sy’n ymddangos yn y rhaglen. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi crynodeb o’r ystod o heriau gan roi pwysau ar y gwasanaeth digartref a’r risg o fyrdwn ariannol cynyddol ar y Cyngor. Cynigodd y Cynllun Gwario Lleol i symud ymlaen gyda’r gostyngiadau a gynlluniwyd ar gyfer gwasanaethau lle mae arbedion effeithlonrwydd wedi’u nodi neu lle nad yw gwasanaethau yn cael eu gweld fel blaenoriaeth i’r gronfa.  Bydd cyllid wedi’i ryddhau yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau sy’n gallu arddangos eu bod yn cyfrannu i amcanion strategol lleol neu flaenoriaethau rhanbarthol wedi eu cyflwyno yn y Cynllun Strategol Rhanbarthol. 

 

            Fe gyfeiriodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad, ar y Cynllun Strategol Rhanbarthol, blaenoriaethau lleol ar gyfer y Grant Rhaglen Cefnogi Pobl, dad-gomisiynu a chynllun gwario 2018/19.

 

            Yn ystod trafodaeth fe fynegodd yr Aelodau eu pryder bod y cyllid a fyddai fel arfer yn cael ei ddyrannu i Gefnogi Pobl wedi symud i Grant Cefnogi ac Atal - Ymyrraeth Gynnar newydd sydd wedi uno cyllidebau ar gyfer Dechrau'n Deg, Teuluoedd Yn Gyntaf, Cronfa Waddol Cymunedau Yn Gyntaf a Grant Cyflogadwyedd newydd. Y cyfanswm cyfunedig o £252m ar draws Cymru oedd £13m yn llai na’r cyfanswm cyfunedig o grantiau unigol yn 2018/19. Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd fe eglurodd y Prif Swyddog nad oedd cyfran y grant i'r Awdurdod yn hysbys eto.

 

            Cyfeiriodd yr aelodau at y cymorth a ddarperir i bobl sy'n gadael carchar ar draws y rhanbarth gan gyfeirio at y ddarpariaeth o dai cyngor yn arbennig. Mewn ymateb i gwestiynau a phryderon a godwyd fe gadarnhaodd y Cynghorydd Bernie Attridge lle'r oedd gan yr Awdurdod ddyletswydd statudol i ddarparu tai cymdeithasol i bobl sy’n gadael carchar roedd polisi rheoli tai cadarn yn ei le i fynd i'r afael ag unrhyw faterion yn codi.

 

            Yn cyfeirio at dudalen 43 ar yr adroddiad fe ofynnodd David Cox am eglurhad ar yr angen i recriwtio ar gyfer swyddi yn y Tîm Gadael Gofal  ac yn y gwasanaeth Atal Digartrefedd.  Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth bellach ar yr angen i recriwtio yn y ddau wasanaeth ac eglurodd bod y cymorth a gynigir gan y Tîm Gadael Gofal i unigolion yn y cyfnodau cynnar o fyw yn annibynnol wedi sicrhau canlyniad mwy llwyddiannus yn y tymor hirach ac yn fwy cost effeithiol i'r Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r Cynllun Gwario Grant Cefnogi Pobl ar gyfer 2018/19 a Chynllun Strategol Rhanbarthol Gogledd Cymru.