Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account (HRA) 2018-19

Cyfarfod: 15/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 45)

45 Cyfrif Refeniw Tai 2018-19 pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Ystyried y cynigion ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai 2018-19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor i ystyried Cyllideb Ddrafft y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 a Chynllun Busnes 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Rhoddodd Rheolwr Asedau Tai a’r Cyfrifydd gyflwyniad i gwmpasu’r canlynol:

 

·         Cyflawniadau 2017/18

o   Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

o   Darpariaeth tai Cyngor

·         Cynllun busnes 30 mlynedd

·         Cyllideb 2018/19

o   Incwm

o   Arbedion effeithlonrwydd

o   Rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru

·         Gweithgarwch yn y dyfodol

 

Fel rhan o’r cyflwyniad, dangoswyd ffotograffau a oedd yn dangos y cyflawniad ar waith mewnol, gwaith allanol a gwaith amgylcheddol yn rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

 Croesawodd Cynghorydd Shotton gynnydd ar Safon Ansawdd Tai Cymru a chanmolodd ymateb prydlon y Cyngor o ran rhoi sicrwydd i denantiaid am dri bloc fflatiau uchel y sir yn dilyn y digwyddiad yn Nh?r Grenfell.  Roedd yr adeiladau yn y Fflint yn dri o ddim ond saith yng Nghymru lle roedd systemau chwistrellu mewnol eisoes wedi’u gosod ac roedd trefn archwilio diogelwch y Cyngor wedi bodloni safonau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Siaradodd Cynghorydd Dolphin am yr angen i gynnwys parcio digonol mewn datblygiadau newydd i ddiwallu anghenion preswylwyr gyda mwy nag un cerbyd.  Eglurodd Swyddogion, fel rhan o’r rhaglen amgylcheddol, roedd safleoedd fel plotiau garejys nad ydynt yn cael eu defnyddio yn cael eu nodi i drosi yn lleoedd parcio.  Gan ymateb i gwestiynau pellach, roedd gosodiadau ystafelloedd gwlyb yn berthnasol yn bennaf i lety gwarchod, fodd bynnag roedd hyblygrwydd yn y rhaglen i wneud darpariaeth ar gyfer addasiadau’r dyfodol i gefnogi tenantiaethau oes.   Cytunodd y Rheolwr Asedau Tai i roi gwybod i Aelodau lleol am asesiadau ‘ar droed’ yn eu wardiau i’w galluogi i gyfranogi, pe baent am wneud hynny.

 

Yn ystod trafodaethau am renti, dywedodd Cynghorydd Dolphin ei bod yn bwysig i denantiaid fod yn ymwybodol o opsiynau talu.  Eglurwyd bod rhenti targed yn berthnasol i 17% o denantiaid y Cyngor a bod y cynnig gan yr Aelod Cabinet ac Arweinydd y Cyngor i gyfyngu ar gynnydd y rhent i’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr o ganlyniad i bryderon am fforddiadwyedd yn yr hinsawdd bresennol.  Ni fyddai’r Cyngor yn cael unrhyw gosbau wrth weithredu cynnydd is na’r hyn a argymhellir gan bolisi rhenti’r Llywodraeth.

 

Dywedwyd wrth Aelodau y byddai’r rhaglen y gofynnwyd amdani ar gyfer gwaith a gynlluniwyd ar gyfer pob ward yn cael ei ddatblygu gan Sean O’Donnell, yn dilyn ymadawiad y Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf.

 

Rhoddodd Cynghorydd Hardcastle ganmoliaeth i’r gwelliannau yn y gwasanaeth Tai dros flynyddoedd diweddar.  Gan ymateb i ymholiadau, eglurodd swyddogion y dull o ran ailymweld ag eiddo lle nad oedd gwaith wedi’i gwblhau oherwydd gwrthod tenantiaid neu ddiffyg mynediad.  O ran taliadau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau golchdy, byddai swyddogion yn ymgysylltu â thenantiaid mewn llety â galw isel am wasanaethau i bennu’r canlyniad cywir.  Cytunodd y Cyfrifydd i ymateb ar wahân i ddarparu nifer y tenantiaid a aeth i’r llys am beidio talu rhenti.

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Cynghorydd Palmer, eglurodd y Rheolwr Asedau Tai fod gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei lywio gan yr  ...  view the full Cofnodion text for item 45