Mater - cyfarfodydd

Contract Management

Cyfarfod: 24/01/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 48)

48 Cytundeb Rheoli pdf icon PDF 92 KB

Rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor ar adolygiad archwilio rheoli contractau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar ganfyddiadau adolygiad Archwilio Mewnol ar gaffael yn dilyn mabwysiadu’r Rheolau Gweithdrefnau Contract diwygiedig. Byddai’r adroddiad yn rhoi sicrwydd ar reoli contractau a fu’n faes pryder i’r Pwyllgor.

 

Rhoddwyd lefel sicrwydd ‘Gwyrdd/Melyngoch’ ar yr adolygiad a chrynhowyd y canfyddiadau. Darparodd y Prif Swyddog ragor o fanylder ar waith i fynd i’r afael â chamau gweithredu mewn perthynas â chofnodi perfformiad y contractwr yn ganolog, cofrestr y contract a hyfforddiant gorfodol i’r swyddogion.

 

Rhoddodd Sally Ellis sylwadau ar yr angen i roi’r camau gweithredu ar waith yn brydlon. Esboniodd y Prif Swyddog fod yr argymhellion yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r camau dilyn i fyny a oedd yn destun monitro ac y byddai unrhyw rai heb eu cwblhau erbyn y dyddiad targed yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor yn y ffordd arferol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Johnson at y camau cytûn ar y defnydd gwaharddedig o Restrau Cymeradwy a rhoddwyd gwybod y byddai hyn yn cael ei ddilyn i fyny er mwyn atgoffa swyddogion o’r ffordd gywir y dylid penodi contractwyr.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Woolley am y dull o ddelio â thanberfformiad y contractwr a oedd yn effeithio ar amser y swyddogion. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai ystod o fesurau dwysáu’n cael eu hymgorffori mewn contractau ac mai’r dewis oedd yn cael ei ffafrio oedd gweithio gyda’r contractwr penodedig i nodi gwelliannau. Siaradodd am yr amryw ystyriaethau oedd ynghlwm megis a oedd y contract o natur arbenigol, ond y gosb eithaf oedd terfynu’r contract.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau’n cael eu sicrhau y bydd y camau adferol, o’u gweithredu, yn mynd i’r afael â’r gwendidau rheoli a ddynodwyd.