Mater - cyfarfodydd
2018 REVIEW OF PARLIAMENTARY CONSTITUENCIES
Cyfarfod: 14/11/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 63)
63 Adolygiad o Etholaethau Seneddol 2018 PDF 92 KB
Pwrpas: I geisio barn ar y cynigion diwygiedig a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar yr 2018 adolygiad Seneddol Etholaethau Fflint & Rhuddlan a Glannau Dyfrdwy & Alyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Revised Proposals with Maps, eitem 63 PDF 13 MB
- App 2 - Assistant Commissioner's Report, eitem 63 PDF 719 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adolygiad o Etholaethau Seneddol 2018
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i geisio barn ar y cynigion diwygiedig a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol y Fflint a Rhuddlan ac Alun a Glannau Dyfrdwy.
Cefnogodd y Cynghorydd Peers yr adroddiad ac fe amlygodd wall yn y geiriad ar gyfer Alun a Glannau Dyfrdwy yn adran 3.3. yn adroddiad y Comisiynydd Cynorthwyol.
Codwyd pryderon gan y Cynghorydd Bithell am effaith yr adolygiad ar Gymru.
O ran enwi etholaethau, gofynnodd y Cynghorydd Neville Phillips a allai'r Cyngor wneud sylwadau i Alun a Glannau Dyfrdwy gael ei newid i Ddwyrain Sir y Fflint. Ar ôl derbyn cyngor gan swyddog, cynigiwyd ac eiliwyd hyn fel gwelliant.
Gofynnodd y Cynghorydd Evans a ellid gwneud cais o’r fath ar y cam hwn yn y broses. Dywedodd y Prif Weithredwr y gellid ei gyflwyno ar y sail ei fod yn haws ei adnabod nag Alun a Glannau Dyfrdwy, er bod y cais yn hwyr.
O'i roi i’r bleidlais, derbyniwyd y gwelliant.
Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Bithell ac fe gawsant eu heilio. Cymeradwywyd yr argymhellion wrth bleidleisio arnynt.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid ymateb yn ffurfiol i geisio newid yr enw Alun a Glannau Dyfrdwy i Ddwyrain Sir y Fflint;
(b) Nodi’r cynigion diwygiedig a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol y Fflint a Rhuddlan ac Alun a Glannau Dyfrdwy; ac
(b) Awdurdodi’r Prif Weithredwr i ymateb ar ran y Cyngor.