Mater - cyfarfodydd

3 - 4 Year Old Funded Child Care Offer

Cyfarfod: 21/11/2017 - Cabinet (eitem 88)

88 Cynnig Gofal Plant wedi’i Ariannu i Blant 3-4 Oed pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        I’r Cabinet ystyried a chymeradwyo ymestyn y rhaglen sy’n cynnig gofal plant am ddim.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad y Cynnig Gofal Plant 3-4 Mlwydd Oed a Ariannir oedd yn darparu diweddariad ar y cynnig Gofal Plant am ddim a cheisiodd gymeradwyaeth i ehangu'r cynnig i ardaloedd eraill yn Sir y Fflint.

 

Dechreuodd y criw cyntaf o blant fanteisio ar y cynnig ar 4 Medi 2017 gyda 215 o geisiadau wedi eu derbyn.  Roedd Sir y Fflint wedi llwyddo i wneud y broses ymgeisio yn un awtomatig gan alluogi rhieni i gofrestru ar-lein a hunanddewis darparwyr gofal plant cofrestredig o’r 134 o ddarparwyr cofrestredig.  Byddai’r ffigwr gwreiddiol o 441 o blant yn cynyddu i 748 o blant pe byddai’n cael ei gymeradwyo gan y Cabinet.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai peilot oedd blwyddyn gyntaf y Cynnig ac y byddai'n ceisio profi a dysgu o:

 

·         Ba mor hygyrch a hawdd oedd i rieni gael mynediad i'r Cynnig;

·         Ba mor hygyrch a hawdd oedd i ddarparwyr ddarparu’r Cynnig; a

·         Sut oedd y Cynnig yn gorwedd ochr yn ochr â Dechrau'n Deg a Chyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar (Hawl Bore Oes)

 

Byddai profi'r Cynnig yn fwy eang yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddysgu beth oedd yn gweithio a beth nad oedd yn gweithio o ran darparu’r Cynnig, yn barod ar gyfer ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan.

 

Roedd y Cynnig wedi ei gynllunio i fod yn gynhwysol fel y byddai plant gydag Anghenion Dysgu Arbennig / Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu cefnogi i gael mynediad i’w lle.  Byddai gweithdai yn cael eu cynnal i ddiweddaru darparwyr ar ddatblygiad y Cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd a wnaed gyda gweithredu’r cynnig Gofal Plant a chymeradwyo'r ymestyn arfaethedig ar y peilot i'r holl ardaloedd o fewn Sir y Fflint.