Mater - cyfarfodydd

Workforce Information Report – Quarter 2

Cyfarfod: 14/12/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 54)

54 Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu – Chwarter 2 pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Ystyried Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 2  2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad gwybodaeth am y gweithlu ar gyfer ail chwarter 2017/18. Bu gwelliant parhaus o ran presenoldeb ers cyflwyno'r polisi newydd ac aethpwyd i’r afael â’r cynnydd mewn absenoldebau, oherwydd straen ac iselder, gyda mentrau amrywiol. Croesawyd cynnydd o ran nifer y gwerthusiadau perfformiad a oedd yn cael eu cwblhau, yn ogystal ag adrodd yn gywir. Nodwyd tuedd gadarnhaol mewn perthynas â gwariant ar weithwyr asiantaeth, a oedd yn cynrychioli llai na 1% o’r bil cyflogau, ac atgoffwyd pawb am yr adolygiad o'r contract hwnnw yn y dyfodol.

 

Wrth ddiolch i’r Uwch Reolwr ac ei thîm am yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Mullin fod y gwelliant mewn presenoldeb yn adlewyrchu’r lefelau uwch o reolaeth a pherchnogaeth sy’n cael eu harddangos gan reolwyr.

 

Croesawodd y Cynghorydd Jones y canfyddiadau hyn ac atgoffodd bawb o’r targed cyffredinol i gwblhau 100% o werthusiadau perfformiad ar gyfer gweithwyr cymwys.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Woolley y gwahaniaeth rhwng dyddiau absennol gweithwyr ysgolion a gweithwyr nad ydynt mewn ysgolion a’r rhesymau dros absenoldebau yn gysylltiedig â straen.Cytunodd yr Uwch Reolwr i ymchwilio i’r mater hwn, er mae’n debyg fod hyn oherwydd i ysgolion weithio yn ystod cyfnodau tymor ysgol yn unig. Mewn perthynas â’r pwynt olaf, anogwyd gweithwyr i fanteisio ar y cymorth oedd ar gael, gan gynnwys ‘Care First’ a oedd yn cynnig cymorth ag ymdopi ag ystod eang o broblemau personol. Gofynnodd y Cynghorydd Woolley am fwy o wybodaeth am hyn.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai’r ‘dyddiau a gollwyd drwy bortffolio’ yn gallu nodi meintiau’r portffolios i ddarparu gwell cyd-destun ac fyddai’r ‘Pedwar Rheswm Uchaf’ yn gallu nodi’r amrywiant rhwng bob categori. Cytunodd yr Uwch Reolwr ymchwilio i weld a fyddai’n bosibl i ddarparu adroddiad mwy manwl ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol, gan nodi’r angen am gyfrinachedd i sicrhau nad oedd modd adnabod unrhyw unigolyn.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Holgate, cytunodd yr Uwch Reolwr i ddarparu ymateb ar wahân ar gostau yn deillio o ffigwr trosiant y gweithlu, a oedd yn uwch na’r arfer, yn bennaf oherwydd trosglwyddiad Arlwyo a Glanhau Newydd. Siaradodd y Prif Swyddog am gael gwared ar swyddi drwy eu dileu a thrwy ymddeoliad cynnar a oedd yn ystyried yr effaith ar wasanaeth a’r disgwyliad i adennill costau gadael o fewn dwy flynedd.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Hughes, am y dangosfwrdd proffil oedran, eglurodd yr Uwch Reolwr fod y data wedi’i adolygu gan reolwyr i ddeall tueddiadau a rhoi gwybod i gynllunio gweithlu.

 

Mewn perthynas â’r graffiau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gofynnodd y Cynghorydd Johnson a fyddai’n bosibl i gynnwys ffigyrau ar gyfer unigolion ag anableddau.Dywedodd yr Uwch Reolwr bod cofnodion yn cael eu cadw ar gyfer gweithwyr a oedd wedi datgelu anabledd a bod consesiynau ar gael, er enghraifft wrth fynychu apwyntiadau. Gofynnodd y Cynghorydd Johnson a fyddai modd i’r proffil oedran ar gyfer athrawon gynnwys dadansoddiad o’r holl swyddi rhan amser a llawn amser. Cytunodd yr Uwch Reolwr i edrych ar sut y gellid cyflwyno’r  ...  view the full Cofnodion text for item 54