Mater - cyfarfodydd
Overview & Scrutiny Annual Report 2016/17
Cyfarfod: 14/11/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 65)
65 Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2016/17 PDF 71 KB
Pwrpas: Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2016/17.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Overview & Scrutiny Annual Report 2016/17, eitem 65 PDF 1 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2016/17
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2016/17 i roi sicrwydd bod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl gyfansoddiadol. Roedd mân newidiadau wedi’u gwneud i’r adroddiad ar ôl iddo gael ei ystyried gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, gan gynnwys rhagair yn deyrnged i’r diweddar Gynghorydd Ron Hampson.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at faterion o ran capasiti a oedd wedi’u crybwyll mewn adroddiad archwilio a gofynnodd a ellid ystyried cefnogaeth weinyddol ychwanegol ar gyfer Trosolwg a Chraffu i gynorthwyo Aelodau.
Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i wirio dyddiadau aelodaeth y pwyllgor a oedd wedi’u cwestiynu gan y Cynghorydd Bithell yn gynharach.
Holodd y Cynghorydd Peers yngl?n â chanlyniad grwpiau trafod diweddar rhwng Aelodau a chydweithwyr o Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd y Prif Weithredwr yn credu y byddai adroddiad ar ganfyddiadau’r ymarfer cenedlaethol hwn yn debygol o gael ei gyhoeddi ac y byddai adborth yn cael ei rannu gydag Aelodau pan fyddai'r gwaith ar ben.
PENDERFYNWYD:
Derbyn Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2016/17.