Mater - cyfarfodydd

Rota Visits

Cyfarfod: 16/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 33)

Ymweliadau Rota

Pwrpas:  I dderbyn adroddiad  llafar gan Aelodau'r Pwyllgor

 

Cofnodion:

Cafwyd adborth cadarnhaol yn dilyn ymweliad y Cynghorwyr Christine Jones a David Wisinger i AROSFA, Yr Wyddgrug a soniwyd am yr amgylchedd cyfeillgar a’r gwelliannau a wnaed i’r gerddi a’r cyfleusterau parcio.

 

Cafwyd adborth gan y Cynghorwyr Gladys Healey a Hilary McGuill yn dilyn eu hymweliad â Hafan Deg, Yr Wyddgrug. Soniasant am y croeso cynnes a gafwyd gan bawb yno.

 

Cafwyd adborth gan y Cynghorydd Mike Allport yn dilyn ei ymweliad cadarnhaol â Marleyfield House a dywedodd ei fod wedi siarad â sawl defnyddiwr gwasanaeth a oedd wedi mynegi ei foddhad â Marleyfield House.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.