Mater - cyfarfodydd

Healthy Schools and Pre-School Programme

Cyfarfod: 01/02/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 40)

40 Rhaglen Ysgolion Iach a Chyn Ysgol pdf icon PDF 132 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar y gwasanaeth a’r ffordd y mae ysgolion yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu, Iechyd, Lles a Diogelu adroddiad i ddarparu diweddariad ar y gwasanaeth a’r ffordd mae ysgolion yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru.  Cyflwynodd yr wybodaeth gefndir a rhoddodd adroddiad ar Gynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru (WNHSS) a Chynllun Cyn-Ysgolion Iach a Chynaliadwy (HSPSS) fel y nodir yn yr adroddiad. Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu adroddiad hefyd ar y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) a’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP).  Roedd Rhaglen Waith Ysgolion Iach a Chyn-Ysgol Ebrill 2017 – Mawrth 2018 ynghlwm yn yr adroddiad.

 

Sylwodd y Cynghorydd Kevin Hughes ar y gostyngiad yn yr arian oedd ar gael i ysgolion a’r effaith bosibl ar iechyd a lles plant a phobl ifanc. Dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu y gallai diffyg arian mewn ysgolion cynradd gyfyngu ar nifer y gweithgareddau a’r arbenigedd allanol y gallai ysgolion ymwneud â nhw. Mewn ymateb i sylwadau pellach gan y Cynghorydd Hughes yngl?n â phwysigrwydd iechyd y geg a deiet da i blant ifanc, esboniodd yr Ymgynghorydd Dysgu fod iechyd y geg wedi’i gynnwys yn y meini prawf maethol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham y dylid llongyfarch pob ysgol yn Sir y Fflint ar eu llwyddiant i hyrwyddo Ysgolion Iach. Awgrymodd yr Aelod Cabinet dros Addysg y dylid gwahodd holl Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid i’r Digwyddiad Gwobrwyo Ysgolion Iach. Cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu i wahodd y Pwyllgor ar ôl trefnu dyddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu ragor o wybodaeth am gynnydd yr ysgolion uwchradd fel rhan o’r Cynllun Ysgolion Iach. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma yn y Cynlluniau Ysgolion Iach a Chyn-Ysgolion a llongyfarch yr ysgolion am y gwaith a wnaed hyd yma; a

 

(b)       Bod yr Aelodau’n cefnogi’r ysgolion a’r cyn-ysgolion i ymgysylltu’n weithredol ym mhob cam o’r cynlluniau.