Mater - cyfarfodydd

Quarters 1 & 2 Council Plan 2017/18 Monitoring Report

Cyfarfod: 15/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 32)

32 Cynllun y Cyngor 2017/18 - Monitro canol blwyddyn pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) yr adroddiad i gyflwyno cynnydd monitro canol y flwyddyn ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Cyngor Uchelgeisiol’  sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.Darparodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau ynghylch monitro gweithgareddau, perfformiad a risgiau, fel y’u manylir yn yr adroddiad ac estynnodd wahoddiad i’r Rheolwr Menter ac Adfywio, Rheolwr Budd-daliadau, Rheolwr Gwasanaeth Rhaglenni Tai a Rheolwr Datrysiadau Tai a Chomisiynu, i ddarparu diweddariad ar gynnydd yn eu hardaloedd gwasanaeth.

 

                        Cyfeiriodd y Rheolwyr Gwasanaeth at Adroddiadau Cynnydd Canol y Flwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18 – Cyngor Cefnogol a Chyngor Uchelgeisiol, oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad ac adroddwyd ar yr is-flaenoriaethau a’r cynnydd cyffredinol a chanlyniadau gweithgareddau ar gyfer eu hardaloedd gwasanaeth. 

 

                        Mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson ei werthfawrogiad  i’r Swyddogion am eu gwaith a’u cefnogaeth wrth ymdrin â’r mater o wersylloedd anghyfreithlon ar Dir Comin Bwcle. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad