Mater - cyfarfodydd
Procurement of a New Agency Contract
Cyfarfod: 21/11/2017 - Cabinet (eitem 93)
Caffael Contract Asiantaeth Newydd
Pwrpas: Cymeradwyo caffael contract asiantaeth newydd.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Caffael Cytundeb Asiantaeth Newydd oedd yn amlinellu'r cytundeb fframwaith presennol a ddefnyddiwyd i gaffael staff asiantaeth.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhai anawsterau gyda’r cytundeb oedd yn cynnwys yr anallu i sicrhau gweithwyr ar y gyfradd dâl a gynigiwyd; anhawster mewn sicrhau arbenigwyr technegol/proffesiynol; ac weithiau anhawster mewn sicrhau gweithwyr mewn niferoedd digonol. Felly roedd angen diwygio'r fanyleb fel rhan o’r broses ail gaffael i sicrhau fod y cytundeb yn parhau i wasanaethu anghenion y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod y caffael yn dechrau gan ddefnyddio’r ESPO MSTAR2 Rhif Fframwaith 653F; a
(b) Bod Cyngor Sir y Fflint yn cydweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i reoli’r broses gaffael.